Cadeirydd y BBC Richard Sharp yn ymddiswyddo

Mae cadeirydd y BBC Richard Sharp wedi ymddiswyddo wedi i adroddiad ganfod ei fod wedi torri'r cod ar benodiadau cyhoeddus.
Cyhoeddodd Mr Sharp fore Gwener y byddai'n camu lawr ddiwedd Mehefin yn dilyn canfyddiadau'r bargyfreithiwr Adam Heppinstall KC i'w benodiad.
Fe wnaeth adroddiad Adam Heppinstal KC i benodiad Mr Sharp fel cadeirydd y BBC ganfod ei fod wedi "methu â datgelu'r gwrthdaro buddiannau posib."
Dywedodd yr adroddiad nad oedd Mr Sharp wedi datgelu yn llawn ei rôl wrth helpu'r prif weinidog ar y pryd, Boris Johnson, i sicrhau benthyciad o hyd at £800,000 ar ddiwedd 2020.
Roedd Mr Sharp wedi wynebu galwadau i ymddiswyddo ar ôl i honiadau ddod i'r amlwg iddo drafod a allai ei ffrind ymddwyn fel gwarantwr ar gyfer benthyciad i Mr Johnson.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd mai "safbwynt Mr Heppinstall ydy er fy mod i wedi torri cod y llywodraeth ar benodiadau cyhoeddus, mae'n nodi nad yw torri'r cod yn golygu o reidrwydd fod penodiad yn annilys.
"Er hyn, dwi wedi penderfynu ei bod hi'n iawn i flaenoriaethu buddiannau'r BBC."