Dinasoedd yn Wcráin yn dioddef ymosodiadau gan daflegrau o Rwsia

Mae lluoedd Rwsia wedi cynnal ymosodiadau gyda thaflegrau ar diriogaeth Wcráin dros nos.
Yn ôl adroddiadau mae o leiaf wyth o bobl wedi marw yn yr ymosodiad diweddaraf, oedd yn canolbwyntio ar y brifddinas Kyiv, dinasoedd Uman a Dnipro.
Roedd plentyn ifanc a'i fam ymysg y meirw.
Dywedodd awdurdodau'r wlad fod 21 o daflegrau wedi cael eu dinistrio cyn glanio a gwneud unrhyw niwed, gydag 11 o'r rhai gafodd eu dinistrio wedi eu hanelu at y brifddinas.
Hwn oedd yr ymosodiad cyntaf ar Kyiv mewn dros 50 o ddiwrnodiau, gyda dyfalu y gallai fod yn ymgais i darfu ar baratoadau Wcráin ar ddechrau cyfnod nesaf y rhyfel.
Y gred yw y bydd lluoedd Wcráin yn dechrau ar ymgyrch filwrol sylweddol yn y gwanwyn i gipio tir yn ôl gan luoedd Rwsia yn nwyrain y wlad, wrth i amodau brwydro heriol y gaeaf ddod i ben.
Mae ymosodiadau o'r fath gyda thaflegrau wedi dod yn fwy prin dros y misoedd diwethaf wrth i'r ymladd rygnu yn ei flaen yn nwyrain y wlad, yn enwedig o amgylch dinas Bakhmut, sydd wedi ei dinistrio yn sylweddol.
Wrth i luoedd Rwsia fethu hawlio rhagor o diriogaeth wedi dros flwyddyn o ymladd gwaedlyd, fe all y misoedd nesaf fod yn dyngedfennol wrth i Wcráin frwydro i adennill tir, a cheisio darbwyllo gwledydd y Gorllewin fod buddugoliaeth yn bosib.