Newyddion S4C

alban

Corff dyn wedi ei ddarganfod gan heddlu’n ymchwilio i farwolaeth athrawes yn yr Alban

NS4C 27/04/2023

Mae heddlu sydd yn ymchwilio i lofruddiaeth athrawes feichiog yn Glasgow wedi darganfod corff dyn mewn cronfa ddŵr.

Nid yw'r corff wedi ei hadnabod yn ffurfiol eto, ond mae’r heddlu’n credu mai corff David Yates, 36, partner Marelle Sturrock ydyw.

Cafodd Ms Sturrock, 35, ei ddarganfod yn farw yn ei chartref am 08.40 ddydd Mawrth.

Roedd yr heddlu yn chwilio am Mr Yates mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth.

Dywedodd Heddlu'r Alban fod yr ymchwiliad yn parhau, ond nad ydyn nhw'n credu bod unrhyw un arall yn gysylltiedig.

Cafodd car oedd yn perthyn i Mr Yates wedi ei ddarganfod ym Mharc Gwledig Mugdock ger Glasgow ac roedd ymchwiliad heddlu helaeth wedi bod yn parhau yn yr ardal.

Roedd Ms Sturrock yn 29 wythnos yn feichiog ac yn gweithio yn Ysgol Gynradd Sandwood yn Glasgow.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Nicola Kilbane: "Mae ein meddyliau gyda theulu a chyfeillion Marelle, yn ogystal â phawb arall sydd wedi eu heffeithio gan y trychineb yma.

"Rydym yn rhoi cefnogaeth arbenigol i’w theulu yn ystod y cyfnod hynod anodd yma.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.