
Cau ysgol Gymraeg wrth agor ysgol Saesneg newydd yn ardal Pontypridd yn ‘sgandal’
Cau ysgol Gymraeg wrth agor ysgol Saesneg newydd yn ardal Pontypridd yn ‘sgandal’

Mae rhai rhieni yn anhapus gyda’r penderfyniad i agor ysgol Saesneg newydd yn Rhondda Cynon Taf ar ôl i'r cyngor gyhoeddi y bydd ysgol Gymraeg yn cau.
Fe ddaeth y cyhoeddiad y bydd Ysgol Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd ger Pontypridd yn cau nôl yn 2018.
Yn sgil hynny, fe aeth rhai o’r rhieni lleol ati i apelio ar y Cyngor Sir i adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn ardal Glyncoch gerllaw.
Gwrthod eu cynnig wnaeth y cyngor, gan ddweud y bydd disgyblion Pont Siôn Norton yn ymuno ag ysgol Heol y Celyn yn lle, sydd rhyw bum milltir lawr y cwm yn ardal Rhyd-y-felin.
Ond nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ysgol Saesneg newydd yn cael ei hadeiladu yn ardal Glyncoch – ar yr union safle yr oedd rhai rhieni am weld ysgol Gymraeg yn cael ei hadeiladu bedair blynedd yn ôl.
“Mae jyst yn teimlo fel bach o kick in the guts i fod yn onest,” meddai Lowri Real, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Pont Siôn Norton.
“’Sen i’n byw yn Glyncoch, byddai’n anodd i fi ddewis y Gymraeg dros yr ysgol yna pan mae ar stepen y drws, yn lle gorfod teithio ar fws a phasio chwech neu saith ysgol Saesneg ar y ffordd.”

‘Ariannu’
Bydd yr ysgol Saesneg newydd yng Nglyncoch yn un o dair ysgol newydd carbon sero-net a fydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Omd mae’r Aelod Seneddol dros Ganol De Cymru Heledd Fychan wedi galw ar y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg i ailystyried iaith yr ysgol newydd.
Mewn llythyr agored at Jeremy Miles, fe ddywedodd yr aelod dros Blaid Cymru mai “nifer fach o rieni fydd yn dewis gyrru eu plant i ysgol Gymraeg, sy’n anos a drytach i’w chyrraedd na’r ysgol Saesneg newydd".
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, fe wnaeth Heledd Fychan alw’r penderfyniad yn “sgandal”.
“Y gwir amdani ydy: mae ’na lai o gyfleoedd yn mynd i fod ym Mhontypridd i deuluoedd yrru eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu hynny.”
‘Dim gostyngiad’
Mewn ymateb, fy ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r uchelgais yw bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith, pa bynnag ysgol maen nhw'n ei fynychu.
"Fe fydd yr ysgol newydd yng Nglyncoch yn cynnwys cyfleoedd i gyflwyno mwy o addysg cyfrwng Cymraeg - gan gychwyn gyda'r plant ieuengaf, ac yn cynyddu yn raddol i roi mwy o gyfleoedd i ddysgu'r iaith dros gyfnod o amser," medden nhw.
Dywedodd y cyngor sir fod lleoliad yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydyfelin wedi ei benderfynu ar ôl cyfnod o ymgynghori helaeth yn ardal Pontypridd, ac hefyd yn dilyn adolygiad barwnol.
"Mae'r dewis o ysgol yn ddewis i'r rheini. Bydd trafnidiaeth ddi-dâl ar gael i ddisgyblion sy'n byw 1.5 milltir neu fwy o'r ysgol addysg agosaf," meddai llefarydd.
"Bydd yna ddim gostyngiad yn nifer y lleoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
“Mae mwy o gapasiti ar gyfer meithrin yn Siôn Norton yn y flwyddyn academaidd hon o'i gymharu â'r llynedd ac mae llefydd dal ar gael.
"Fe fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg yn Rhydyfelin hefyd yn cynnig mwy o gapasiti ar gyfer addysg meithrin pan fydd yn agor."
‘Trist’
Ond mae ymgyrchwyr lleol yn pryderu am y effaith y gallai hynny ei gael ar y Gymraeg yn lleol.
“Os oes gennych hi ddim car, a ’da chi angen mynd â’ch plentyn i ysgol chwe milltir i ffwrdd, dydy hynny ddim yn opsiwn,” meddai Eurgain Haf Jones, sydd wedi helpu sefydlu cylch meithrin yng Nghilfynydd i geisio annog mwy o rieni i anfon eu plant i gael addysg Gymraeg.
“Ac yn drist iawn, ’da ni yn clywed eisoes gan rieni nad ydyn nhw’n gallu dewis eu hysgol Gymraeg leol.”
Adleisio ei phryderon mae Rufus Mufasa, sydd â’i merch yn Ysgol Pont Siôn Norton: “Dwi yn becso, achos mae ’na generations o deuluoedd yn yr ardal wedi rhoi eu plant trwy addysg Gymraeg, ond nawr mae rhieni yn meddwl eto.
“Ni’n pobl tlawd lan yn Glyncoch, a beth roedd y Gymraeg yn rhoi i ni oedd opsiynau i fynd tu hwnt i’n milltir sgwâr.”