Y cyflwynydd teledu Jerry Springer wedi marw yn 79 oed

Mae’r cyflwynydd teledu o America, Jerry Springer, wedi marw yn 79 oed.
Cafodd asiantaeth newyddion TMZ gadarnhad gan deulu Springer ei fod wedi marw yn ei gartref yn Chicago fore dydd Iau.
Dywedodd y teulu ei fod wedi cael diagnosis o ganser yn gynharach y flwyddyn hon.
Roedd Springer yn enwog am gyflwyno The Jerry Springer Show am bron i dri degawd.
Fe gyflwynodd bron i 5,000 episod o’r rhaglen dros 27 cyfres rhwng 1991 a 2018.
Roedd hefyd yn gyflwynydd ar raglen America’s Got Talent o 2007 i 2008.
Dywedodd llefarydd ar ran y teulu, Jene Galvin: “Roedd gallu Jerry i gysylltu â phobl wrth wraidd ei lwyddiant, boed hynny’n wleidyddiaeth, darlledu neu os oedd yn cael hwyl gyda phobl ar y stryd oedd eisiau llun neu sgwrs gyda fo.
“Mi fydd yn amhosib i unrhyw un gymryd ei le ac mae ei golli'n brifo'n aruthrol, ond bydd atgofion o'i garedigrwydd, ei galon a'i hiwmor yn parhau.'”