£11m ar gyfer prosiectau cadwraeth i helpu bywyd gwyllt Cymru sydd mewn perygl

Heddiw, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi cronfa gwerth £11m i helpu atal dirywiad bywyd gwyllt Cymru i achub eog gwyllt.
Yn ôl arbenigwyr gallai'r pysgodyn hynafol ddiflannu o afonydd Cymru erbyn 2030.
Enwodd y Gweinidog 26 prosiect newydd fydd yn elwa ar y rownd ddiweddaraf o gyllid Rhwydweithiau Natur er mwyn cryfhau gwytnwch moroedd, coedwigoedd a glaswelltiroedd sy'n diflannu yng Nghymru.
Mae’r Rhaglen Rhwydwaith Natur yn rhan o gyflawni nod 30 erbyn 30 y Cenhedloedd Unedig, sef ceisio gwarchod a rheoli 30% o amgylchedd morol y blaned yn effeithiol a 30% o amgylchedd tir y blaned erbyn 2030.
Dros ganrifoedd, mae rhwystrau ffisegol fel ffyrdd, gwaith datblygu a thir fferm wedi gadael bywyd gwyllt a phlanhigion yn sownd ar ‘ynysoedd’ di-gysylltiedig, gan rwystro’u llwybrau mudo.
Mae prosiect ‘Ailgysylltu Afonydd Eog Cymru’, wedi elwa ar fwy na £600k o rownd gyntaf y Gronfa Rhwydwaith Natur, a ddyfarnodd £7m i 29 o brosiectau.
Ei nod yw cael gwared ar rwystrau ffisegol sydd wedi rhwystro llwybrau mudo ar gyfer eogiaid gwyllt a rhywogaethau eraill yn afonydd Cleddau Wen, Cleddau Du, Wysg, Tywi, a Theifi.
Wrth ymweld ag Afon Wysg, sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf sylweddol o ran eogiaid, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Rydym i gyd am weld Cymru yr ydym yn falch o'i throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
Ar hyn o bryd, maen nhw'n wynebu byd go wahanol os nad ydyn ni'n camu i’r adwy ac yn gweithredu'n gyflym mewn ymdrech Tîm Cymru i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
“Bydd afonydd iach, o fudd i les corfforol a meddyliol pawb, mae poblogaeth lewyrchus o eogiaid yn dyst i afon lân ac ocsigenedig lle gall rhywogaethau eraill ffynnu ac y gall twristiaeth ffynnu.”
Dywedodd yr Athro Carlos Garcia de Leaniz, cydlynydd prosiect Ailgysylltu Afonydd Eog Cymru: “Os nad oes dim yn cael ei wneud y gall eogiaid ddiflannu o'r rhan fwyaf o afonydd Cymru mewn cyn lleied ag 20 mlynedd neu 30 mlynedd.
"Ni allwn adael i hynny ddigwydd.”