Newyddion S4C

Wxm

Prifysgol Glyndŵr yn newid ei henw i Brifysgol Wrecsam

NS4C 27/04/2023

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi newid ei henw swyddogol i Brifysgol Wrecsam yn dilyn ymgynghoriad.

Penderfynwyd newid yr enw'n swyddogol yn rhannol oherwydd "proffil uwch" y ddinas erbyn hyn, meddai'r brifysgol.

Fe wnaeth y brifysgol nodi mai statws dinesig diweddar y ddinas a'r sylw o gwmpas Clwb Pêl-droed Wrecsam oedd y rhesymau eraill dros y newid.

Bydd disgwyl i'r ail-frandio a'r enw newydd gael ei ddefnyddio yn hwyrach eleni.

Cryfhau hunaniaeth

Mae'r brifysgol wedi cael ei hadnabod fel Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ers 2008.

Mae'r enw yn deyrnged i'r tywysog Owain Glyndŵr, oedd wedi ceisio sefydlu prifysgolion gyntaf Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol bod y newid yn un cywir i'w wneud yn dilyn yr holl sylw mae dinas Wrecsam yn ei dderbyn.

"Bydd ailenwi ein prifysgol yn ein helpu i farchnata'n well, a chryfhau ein brand a'n hunaniaeth," meddai.

Fe wnaeth Wrecsam dderbyn sylw ar draws y byd wedi i sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds brynu'r clwb.

Yn ogystal, enillodd Wrecsam statws dinas y llynedd a dod yn ail gyda'u cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025.

Dywedodd y brifysgol ei bod hi'n "falch o fod wedi ein lleoli yn Wrecsam."

"Bydd cael ein galw'n Brifysgol Wrecsam/Wrexham University yn golygu bod modd i ni gyfathrebu enw'r brifysgol yn haws i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill yn genedlaethol a rhyngwladol."

Llun: JThomas/Creative Commons

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.