Gwrthwynebiad i gynllun storio ynni yn Eryri
Mae cynllun storio ynni wedi ennyn gwrthwynebiad gan gyngor cymunedol yn Eryri yn sgil pryderon am ei effaith ar y dirwedd yno.
Mae cynghorwyr Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd cynllunio dros dro gydag amodau i System Storio Ynni (ESS) yn Llanddeiniolen yng Ngwynedd.
Byddai'r system yn cael ei adeiladu ar dir yn Nhyddyn Forgan ac yn gweithredu am gyfnod o 40 mlynedd.
Cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno gan gwmni Net Zero Twenty Six Limited trwy'r asiant Natalie Wilson o Tetra Tech.
Mae adroddiad yn disgrifio cais cynllunio llawn i osod a gweithredu'r ESS, gan gynnwys unedau storio ynni, is-orsaf drydan a mynediad i'r safle.
Mae'r safle 4.6 hectar yn Nhirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig ac yn agos i goetir sy'n cael ei ystyried yn safle bywyd gwyllt rhanbarthol.
Dywedodd yr adroddiad cynllunio: "Mae ESS yn storio ynni dros ben o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a'r grid pan fydd y galw am drydan yn isel.
"Yna mae'n rhyddhau'r trydan yn ddiweddarach pan fydd galw. Felly mae cynlluniau ESS yn helpu i ddarparu diogelwch cyflenwad ynni."
'Anodd ei guddio'
Mae Cyngor Cymuned Pentir yn gwrthwynebu'r cynllun, gan honni ei fod yn "or-ddatblygiad".
Roedd y cyngor yn teimlo y byddai’r system yn "weladwy o bell", yn agos at y briffordd ac yn "anodd ei guddio".
Fe wnaethon nhw dynnu sylw hefyd at yr effaith ar y "golygfeydd naturiol ac agored tuag at Yr Wyddfa a mynyddoedd Eryri".
Ond roedd adroddiad ar effaith weledol y cynllun wedi dod i’r casgliad y byddai "lefel isel iawn o effaith weledol ar y dirwedd".
Nid oedd yr adroddiad yn ystyried bod y datblygiad yn "amlwg" ac "ni chredir bod ganddo effaith niweidiol sylweddol ar nodweddion pwysig y dirwedd".
Er bod cynghorwyr Cyngor Gwynedd wedi rhoi sêl bendith i'r cynllun yma, maen nhw wedi argymell gwrthod ail gynllun tebyg.
Cafodd yr ail gais ar gyfer cynllun tebyg ei gyflwyno gan gwmni Brockwell Energy Limited trwy'r asiant Andrew Barton (AXIS).
Mae'n ymwneud â chynlluniau ar gyfer system storio ynni batri, seilwaith cysylltiedig a mynediad ar dir i'r de o'r B4547 yn ardal Seion/Pentir gerllaw.
Mae'r safle'n ymwneud ag 1.95 hectar o dir ac mae hefyd o fewn y dirwedd hanesyddol. Mae hefyd yn cynnwys rhan o gae mwy ar hyd y B4547.
Mae'r datblygwyr wedi honni y gallai'r prosiect "gyfrannu at ddiogelwch ynni" a "chefnogi'r symudiad i gynhyrchu trydan carbon isel".
Ond mae'r cynllun wedi arwain at bryderon gan uned diogelu'r cyhoedd am lefelau sŵn ac roedd wedi cynghori monitro.
Fe wnaeth Cyngor Cymuned Pentir wrthwynebu'r cynllun ar yr un sail i’r cais cyntaf.
Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn ystyried y ddau gais ddydd Llun.
