Newyddion S4C

Cyflwyno gwobr arbennig i werthwr llyfrau o'r Bala am ei gyfraniad i'r diwydiant

27/04/2023
gwyn sion ifan.jpg

Mae rheolwr siop Awen Meirion yn Y Bala wedi derbyn gwobr arbennig am ei gyfraniad i'r byd llyfrau yng Nghymru. 

Fe wnaeth Garmon Gruffudd a Myrddin ap Dafydd gyflwyno'r wobr i Gwyn Siôn Ifan nos Wener ddiwethaf yng nghlwb golff Y Bala wrth i'r siop ddathlu ei phenblwydd yn 50 oed.

Mae'r Cwlwm, sydd yn cefnogi cyhoeddwyr a'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, yn cyflwyno'r wobr yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad hir-dymor i'r byd llyfrau yng Nghymru.

Mae wedi cyflwyno'r wobr i olygyddion, arlunwyr a chyhoeddwyr dros y blynyddoedd. 

Mae Gwyn Siôn Ifan yn lyfrwerthwr ac mae'r Cwlwm yn falch o gael "cydnabod rôl hollol allweddol llyfrwerthwyr i’r diwydiant llyfrau yng Nghymru."

Dywedodd Cadeirydd y Cwlwm, Garmon Gruffudd: "Galla i ddim meddwl am neb sy’n haeddu’r wobr yn fwy na Gwyn Sion Ifan. Mae ei frwdfrydedd dros lyfrau a’r pethe yn heintus.

"Mae’n lyfrwerthwr dyfeisgar sydd wedi gweithio yn ddiflino ac yn anhunanol dros flynyddoedd maith yn cenhadu dros lyfrau a chreadigrwydd Gymraeg. Fel pob siopwr da mae’n nabod ei lyfrau, yn nabod ei bobl ac yn hael ei gyngor. Mae ardal Penllyn yn lwcus ohono."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.