Lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn hollti barn cynghorwyr Sir Ddinbych

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig ei hun i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol rhwng 2025 a 2031, ond mae cynghorwyr yn rhanedig ynghylch lle y dylai'r brifwyl gael ei chynnal.
Gyda'r Eisteddfod yn denu tua 150,000 o bobl bob blwyddyn, mae cynghorwyr wedi dadlau dros os y dylai'r Eisteddfod gael ei chynnal yng ngogledd y sir, sydd yn fwy Seisnig, neu yn y de, sydd yn fwy o gadarnle'r Gymraeg.
Mae rhai aelodau yn credu y byddai cynnal y Brifwyl ger yr arfordir yn gallu helpu i hybu'r Gymraeg tra bod eraill yn teimlo fod angen iddi gael ei chynnal mewn ardal fwy Gymreig.
Mae Rhuddlan ymysg y llefydd a fyddai fwyaf tebygol i groesawu'r Eisteddfod ar hyn o bryd, wedi i gyngor y dref ofyn i gynghorwyr ystyried blaenoriaethu'r dref ar gyfer y cynnig.
'Gadael gwaddol'
Dywedodd aelod Cyngor Sir Ddinbych dros yr iaith Gymraeg, y Cynghorydd Emrys Wynne, fod "yr Eisteddfod yn cyfrannu at economi'r ardaloedd y mae'n ymweld â nhw, ac yn gadael gwaddol ar ôl gadael, ac mae hynny yn bwysig iawn, iawn.
"Felly os ydym ni am gefnogi'r ymgais, byddem ni'n rhoi pwysau ar bwyllgor yr Eisteddfod i gynnal y Brifwyl yng ngogledd Sir Ddinbych...a byddwn yn hoffi eu gweld yn ymateb i'r gwahoddiad gan Gyngor Tref Rhuddlan."
'Cadarnleoedd Cymreig'
Ond, dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis mewn cyfarfod yn gynharach yn yr wythnos ei bod hi'n awyddus i weld y Brifwyl yn cael ei chynnal mewn cadarnle Cymraeg.
"Mae de'r sir yn mynd i gael cyn gymaint, os nad yn fwy, o fudd o gael cynnal yr Eisteddfod yno," meddai.
"Dyna lle mae gennym ni'r cadarnleoedd Cymreig yn ein sir, ac rydym ni angen rhywbeth fel Eisteddfod yno er mwyn rhoi hwb i Gymreictod yr ardal."
Fe wnaeth Dirprwy arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gill German, anghytuno, gan ddweud y byddai'n well ganddi weld yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng ngogledd y sir "oherwydd bod angen tyfu'r iaith yno."
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan: "Lle bynnag y byddai'n cael ei chynnal yn Sir Ddinbych, byddwn i'n ei chroesawu'n fawr."