Newyddion S4C

Yr heddlu'n chwilio am ddyn ar ôl i gorff athrawes gael ei ddarganfod

27/04/2023
alban

Mae’r heddlu yn yr Alban yn chwilio am ddyn mewn parc gwledig ar ôl i gorff athrawes gael ei ddarganfod naw milltir i ffwrdd.

Cafodd Marelle Sturrock, 35, ei darganfod yn farw am 08.40 ddydd Mawrth mewn eiddo yn Stryd Jura, Glasgow.

Dywedodd Heddlu’r Alban fod ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae swyddogion wedi bod yn chwilio am ddyn ym Mharc Gwledig Mugdock, yn Nwyrain Sir Dunbarton.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Cheryl Kelly o Heddlu'r Alban: “Bydd presenoldeb yr heddlu'n parhau yn y ddau leoliad wrth i’n gwaith fynd yn ei flaen.”

Roedd Ms Sturrock yn gweithio yn Ysgol Gynradd Sandwood yn Glasgow.

Dywedodd pennaeth yr ysgol Fiona Donnelly mewn llythyr i rieni: “Gyda thristwch mawr y mae’n rhaid i mi eich hysbysu am farwolaeth sydyn Ms Sturrock sy’n aelod annwyl o’n staff addysgu.

“Rwy’n gwybod y bydd hyn yn sioc i’n cymuned ysgol, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi plant, staff a theuluoedd trwy gyfnod anodd a heriol.

“Rydym wedi cael cefnogaeth yn yr ysgol heddiw gan ein seicolegwyr addysg a fydd yma dros y dyddiau nesaf i gynnig cymorth a chyngor.

“Rwy’n gobeithio y byddwch yn deall nad oes unrhyw fanylion eraill y gallaf eu rhannu ar hyn o bryd ond roeddwn am adael i’n teuluoedd wybod y newyddion trasig o’r ysgol.”

Symudodd Ms Sturrock i Glasgow pan oedd yn 17 oed i ddilyn gyrfa ym maes y celfyddydau perfformio.

Yn ddiweddarach daeth yn athrawes ysgol gynradd ar ôl cwblhau ei diploma ôl-raddedig mewn addysg.

Dywedodd Ms Kelly: “Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Marelle, yn ogystal â phawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn.

“Rydym yn rhoi cymorth i’w theulu ar yr adeg hynod anodd hon wrth i’n hymchwiliad i sefydlu’r amgylchiadau llawn barhau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.