Newyddion S4C

Gamblo

Deddfwriaeth newydd ar gamblo i wneud y sector yn 'addas ar gyfer yr oes ddigidol'

NS4C 27/04/2023

Mae disgwyl i’r Papur Gwyn ar gamblo gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ddydd Iau.

Mae'n debyg y bydd y papur y manylu ar gynlluniau gweinidogion i reoleiddio’r sector a'i wneud yn “addas ar gyfer yr oes ddigidol”.

Mae ymgyrchwyr yn gobeithio y bydd yn cynnwys cynlluniau ar fesur fforddiadwyedd gamblo a chyflwyno toll statudol ar gwmnïau gamblo i dalu am ymchwil, addysg a thriniaeth ar gyfer gamblo dwys.

Fe allai mesurau eraill gynnwys rheoli gemau slot ar-lein i gyd-fynd â'r rhai ar lawr gwlad, a chreu ombwdsmon gamblo i ddelio â chwynion cwsmeriaid.

Fe lansiodd y Llywodraeth ei hadolygiad gamblo ym mis Rhagfyr 2020 ond mae cyhoeddi’r Papur Gwyn wedi bod yn destun oedi sylweddol oherwydd cyfres o newidiadau gweinidogol.

Mae disgwyl i weinidogion o’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gan gynnwys y gweinidog gamblo Stuart Andrew a’r ysgrifennydd diwylliant Lucy Frazer, ateb cwestiynau am y Papur Gwyn yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau.

Wrth ysgrifennu yn The Times ddydd Iau, dywedodd Ms Frazer nad yw'r rheoliadau ar gyfer gamblo wedi cyd-fynd â'r datblygiadau yn y diwydiant, yn enwedig oherwydd y cynnydd mewn ffonau symudol a'r rhyngrwyd.

“Mae gamlwyr Prydeinig yn gwario bron i £10 biliwn y flwyddyn ar gemau casino ar-lein, betio chwaraeon a mathau eraill o hapchwarae masnachol,” meddai Ms Frazer.

“Mae ein ffonau wedi agor gwlad ryfeddol ddigidol lle gall pawb gael mynediad at ystod eang o beiriannau slot sy'n fflachio, rasys rhithwir a byrddau blackjack.

“Dyna pam mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i ailwampio’r rheolau gyda dull sy’n canolbwyntio ar gydbwysedd: i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, ond peidio â rhwystro’r mwyafrif o bobl sydd eisiau cael bet.”

Dywedodd Ms Frazer y bydd y Papur Gwyn yn targedu'r cydbwysedd rhwng defnyddwyr a gweithredwyr, ac yn gwneud mwy i amddiffyn plant ac ariannu ymchwil ar sut i atal pobl rhag mynd yn gaeth i gamblo yn y dyfodol.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.