Wrecsam yn cyhoeddi pryd fydd eu gorymdaith fws agored i ddathlu dyrchafiad

Mae CPD Wrecsam wedi cadarnhau mai ar ddydd Mawrth 2 Mai y bydd yr orymdaith fws agored yn cael ei chynnal o gwmpas canol y ddinas.
Bydd yr orymdaith yn dathlu llwyddiannau'r timau dynion a merched sydd wedi ennill y gynghrair eleni.
Mae'r clwb yn gwahodd cefnogwyr i lenwi'r strydoedd ac ymuno â’r dathliadau ar y noson, sydd yn cychwyn am 18:15.
Bydd disgwyl i'r orymdaith gymryd tuag awr ac fe fydd y llwybr llawn yn cael ei gyhoeddi cyn y digwyddiad.
Enillodd dynion Wrecsam y Gynghrair Genedlaethol dydd Sadwrn yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Boreham Wood.
Roedd merched y clwb wedi curo Llansawel i sicrhau eu bod yn codi i'r Genero Adran Premier y tymor nesaf.