Newyddion S4C

O'r Borth i Beyoncé: Dylunydd yn creu argraff ar un o artistiaid mwya'r byd

30/04/2023

O'r Borth i Beyoncé: Dylunydd yn creu argraff ar un o artistiaid mwya'r byd

O Borthaethwy i Beyoncé, mae Phil John Perry yn gysylltiad anghyffredin rhwng y seren fyd-enwog a'r dref fach hon.

Yn wreiddiol o Fanceinion, mae Phil bellach yn berchennog busnes ym Mhorthaethwy, ond mae ei stori cyn cyrraedd Ynys Môn yn un unigryw. 

Mae Phil yn ddylunydd penwisgoedd talentog, ac wedi cydweithio gyda nifer o sêr byd-enwog dros y blynyddoedd - o Sam Smith i Olly Alexander. 

Ond un o uchafbwyntiau ei yrfa hyd yma ydy dylunio dau benwisg ar gyfer un o bobl enwocaf a mwyaf adnabyddus y byd: Beyoncé.

Fe wnaeth Phil ddechrau ar ei yrfa fel dylunydd penwisg blodeuog tra'n ceisio gwneud bywoliaeth yn Llundain. 

Dechreuodd gasglu gwrthrychau a deunyddiau gwahanol o sawl bin ar hyd strydoedd Llundain ac wrth i amser fynd yn ei flaen, fe wnaeth y penwisgoedd deniadol ddechrau denu sylw.

"Fe wnes i gyfres o hunan-bortreadau ac roedd o i gyd fwy neu lai yn flodeuog. Doedd o ddim yn ddel, roedd o wedi ei seilio ar arfau. Dwi'n hoffi'r syniad o flodau yn cael eu portreadu yn gryf iawn er eu bod nhw'n fregus felly o hynny ddaeth pethau mewn gwirionedd," meddai Phil wrth Newyddion S4C.

"Dwi'n defnyddio blodau yn yr un ffordd â dwi'n defnyddio geiriau, neu baent i greu rhywbeth ac ers hynny, mae o wedi sefyll ar ei draed ei hun, a oedd yn anhygoel a doedd o ddim wedi ei gynllunio o gwbl."

Image
phil ag olly
Fe wnaeth Phil ddylunio set ar gyfer Olly Alexander.

Fe wnaeth Vogue gysylltu gyda Phil yn gofyn iddo ddylunio penwisg ar gyfer Beyoncé. 

"Pan roeddwn i'n gweithio i gwmni, fe wnes i goron flodeuog ar gyfer priodferch ac fe gafodd llun ei dynnu. Roedd British Vogue yn hoff o'r llun yma ac ar ôl hynny, fe wnaethom ni greu perthynas. 

"Digwydd bod, roeddwn i'n gadael y cwmni, ond daeth British Vogue yn ôl ataf ac fy swydd olaf i oedd gwneud un ar gyfer Beyoncé."

Image
Beyonce 2
Beyoncé yn gwisgo'r benwisg a gafodd ei dylunio gan Phil.

Roedd Phil yn gwybod fod angen i'r penwisgoedd fod yn unigryw, ac roedd yn awyddus i ddefnyddio ei greadigrwydd ei hun er mwyn gwneud rhywbeth gwahanol. 

"Doeddwn i ddim isio creu rhywbeth priodasol neu fympwyol ar gyfer eicon mor fawr," meddai. 

"Nes i ddau, ac roedd o'n un o'r eiliadau 'na lle roeddwn i'n hoff o'r hyn r'on i'n greu a phan welais i'r llun ohoni yn gwisgo'r ffrog wen o flaen cynfas gwely, roedd o'n anhygoel ac r'on i'n falch iawn iawn ohono."

Roedd o'n deimlad hollol swreal i Phil ac roedd hi'n garreg filltir bersonol iddo hefyd. 

"Roedd o'n teimlo yn lot o bwysau ac roedd rhaid i mi fod yn eithaf llym efo fy hun o ran meddwl bod rhaid i hwn fod yn wahanol, yn gryf a phwerus. Doeddwn i ddim isio rhoi eicon fenywaidd mor gryf mewn rhywbeth pinc a fluffy felly roedd o'n benderfyniad bwriadol i wneud rhywbeth gwahanol.

"I fi allu creu beth oeddwn i eisiau ei greu, roedd hynny yn rywbeth pwysig."

Image
Dyluniad Phil
Un o'r dyluniadau ar gyfer penwisg Beyoncé.

Cafodd Phil y cyfle i gyfarfod Beyoncé ar y diwrnod, ac roedd hyn yn brofiad bythgofiadwy iddo. 

"Cefais y cyfle i fod ar y set. Gyda phenwisgoedd blodeuog, mae'n rhaid i chi fod yno mewn ffordd. 

"Dywedodd hi wrtha i 'Phil, mae dy waith di'n anhygoel'. A ma' hi'n artist lle ti'n gwybod bod ei barn hi'n bwysig felly o'n i'n eitha hapus efo fy hun."

Pwysigrwydd natur

Mae natur yn elfen bwysig iawn i Phil yn ei waith fel dylunydd yn ogystal â fel person. 

"Mae natur i mi wedi bod yn hollbwysig ers yn ifanc, hyd yn oed cyn i mi allu darllen, roeddwn i tu allan gyda fy mam  yn chwarae gyda brigau a phlanhigion a chreu pethau," meddai. 

"Anifeiliaid a natur ydy'r pethau sydd yn fy ngwneud i'n hapus, a dydy hynny heb newid."

Mae Phil hefyd yn bwriadu dechrau dysgu Cymraeg.

"Mae clywed dwyieithrwydd a dysgu am yr iaith yn rywbeth anhygoel. Yn amlwg, am fod gen i siop rwan, dwi'n trio gwrando a dysgu ambell i air. 

"I mi, mae'n dda oherwydd fy mod i'n dyslecsig felly mae'n phonetig felly dwi'n trio ei dysgu a dwi'n caru ei chlywed hi a'r bobl ifanc i gyd sydd yn ei siarad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.