Yr awyren gyntaf i gludo dinasyddion Prydeinig o Sudan yn glanio yn Llundain

Mae'r awyren gyntaf yn cludo dinasyddion Prydeinig sydd wedi ffoi rhag yr ymladd yn Sudan, wedi glanio ym maes awyr Stansted yn nwyrain Llundain.
Cafodd y teithwyr ar fwrdd yr awyren eu hebrwng i ynys Cyprus yn gyntaf.
Mae cyfanswm o 300 ddinasyddion Prydeinig bellach wedi cael eu cludo mewn pedair awyren o Sudan i Gyprus wrth i’r ymdrechion i'w cludo i ddiogelwch barhau.
Glaniodd yr awyrennau cyntaf ym maes awyr Larnaca nos Fawrth a bore Mercher.
Y bwriad yw cludo rhagor o ddinasyddion Prydeinig o Gyprus i Lundain yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Gyda rhagor o ddinasyddion Prydeinig yn dal i fod yn Sudan, roedd awyren yr Awyrlu yn paratoi i adael maes awyr Wadi Saeedna ger prifddinas Khartoum brynhawn Mercher ac mae disgwyl tri hediad arall yn ddiweddarach yn y dydd.
Dywedodd Downing Street fod yr awyrennau wedi bod yn “llawn neu’n agos at lawn” heb unrhyw broblemau “sylweddol.”
Milwyr
Daw’r ymdrechion yn sgil y cadoediad yn Sudan, a ddechreuodd am hanner nos ar 24 Ebrill, ac a fydd mewn grym am 72 awr.
Teuluoedd â phlant ifanc yw'r mwyafrif ar y teithiau cyntaf, gydag Ysgrifennydd Tramor y DU James Cleverly yn nodi taw pobl mwyaf agored i niwed sy'n cael eu cludo o Sudan yn gyntaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace bod 120 o filwyr Prydain eisoes yn Sudan yn cydlynu'r ymgyrch achub.
Mae'r llywodraeth hefyd yn ystyried opsiynau eraill heblaw meysydd awyr. Maen nhw eisoes wedi anfon llongau'r llynges i Sudan, sy'n cynnwys RFA Cardigan Bay a HMS Lancaster.
Y bwriad yw cludo dinasyddion Prydeinig o borthladd sydd rhyw 500 milltir o brifddinas Sudan.