Newyddion S4C

22 mis o garchar am gynorthwyo llofrudd Olivia Pratt Korbel

26/04/2023
Olivia Pratt-Korbel

Mae dyn 41 oed wedi cael ei garcharu am 22 mis am helpu Thomas Cashman wedi iddo ladd y ferch naw oed, Olivia Pratt Korbel yn Lerpwl ym mis Awst 2022.

Plediodd Paul Russell o Lerpwl yn euog i gynorthwyo Cashman mewn achos ym mis Hydref y llynedd, ond oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol, doedd dim modd cyhoeddi hynny ar y pryd. 

Dywedodd Russell wrth y llys fod Cashman yn codi arswyd arswyd arno ac nad oedd yn ymwybodol ei fod wedi lladd y ferch naw oed yn ardal Dovecot, ar y pryd.

Dywedodd Paul Russell wrth yr heddlu mai Cashman oedd yn gyfrifol am lofruddio Olivia, a'i fod wedi cludo Cashman o'r tŷ mewn car tua 22:00 y diwrnod cafodd Olivia ei lladd.

Ychwanegodd Russell wrth y llys ei fod yn ymwybodol bod gan Cashman ran yn y saethu, ond na chlywodd am farwolaeth Olivia tan y bore canlynol.

Eglurodd iddo gael rhybudd gan Thomas Cashman i "beidio â dweud gair" pan glywodd y newyddion, ond fe aeth Paul Russell at yr heddlu.

Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Tom Schofield: "Nid yw (Russell) yn gwadu ei fod yn rhan o'r achos ac mae'n cydnabod ei bod hi'n iawn iddo gael ei gosbi."

Eiliadau wedi i Russell gael ei gyhuddo fis Hydref diwethaf, cafodd ei fygwth a bu'n rhaid ei symud o gell yn Leeds i garchar arall.  

Dywedodd Mr Schofield y byddai Russell yn cael enw newydd wedi iddo gael ei ryddhau o garchar, ac na fydd hawl ganddo i ddychwelyd i Lannau Mersi. 

Wrth glywed y ddedfryd yn cael ei chyhoeddi, dywedodd tad Olivia, John Francis Pratt bod y penderfyniad yn “jôc.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.