Cynnig mynediad am ddim i gefnogwyr ifanc CPD Caernarfon

Fe fydd pobl ifanc yn cael mynediad am ddim i gemau cartref clwb pêl-droed Caernarfon y tymor nesaf, a hynny mewn ymdrech i leddfu rhywfaint o effaith costau byw ar deuluoedd
Fe fydd pobl ifanc 16 oed a iau yn cael mynediad am ddim i’r Oval, sef stadiwm cartref y tîm, ar gyfer pob gêm y tîm cyntaf yn ystod y tymor nesaf.
Daw’r cyhoeddiad gan y clwb, sydd yn chwarae yn y Cymru Premier JD, yn sgil yr argyfwng costau byw medd llefarydd.
Mewn ymgyrch i leddfu’r straen ar eu cefnogwyr dywedodd y clwb: “Mae’r clwb yn gwerthfawrogi bod y wlad gyfan yn cael pethau’n anodd yn ariannol a dydyn ni ddim yn meddwl y byddai’n deg ar ein cefnogwyr ifanc efallai na fyddan nhw’n gallu gweld eu hoff dîm oherwydd hyn.
“Edrychwn ymlaen at eu croesawu i'r Oval y tymor nesaf.”