Ymchwil cyfergyd: 45% yn dangos symptomau anaf i'r ymennydd chwe mis yn ddiweddarach

Mae bron i hanner y bobl sydd yn derbyn cyfergyd yn dal i ddangos symptomau anaf i'r ymennydd chwe mis yn ddiweddarach, medd ymchwil newydd.
Yn ôl yr astudiaeth newydd, gall hyd yn oed cyfergyd ysgafn achosi effeithiau hirdymor i'r ymennydd.
Gan ddefnyddio data o astudiaeth ar draws Ewrop, mae gwyddonwyr ym Mrifysgol Caergrawnt wedi darganfod bod newidiadau yn y ffordd y mae rhannau o'r ymennydd yn cyfathrebu â'u gilydd yn digwydd i 45% o bobl sydd yn cael ergyd i'r pen.
Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu y gallai hyn achosi symptomau hirdymor fel blinder a nam gwybyddol.
Dywedodd y gwyddonwyr bod eu canfyddiadau yn cynnig gobaith y gall ymchwilwyr ragweld sut y bydd claf yn ymateb chwe mis wedi'r cyfergyd, ac yn caniatáu i feddygon gynnig triniaeth sy'n targedu eu symptomau penodol.
Gallai cyfergyd – anaf trawmatig ysgafn i’r ymennydd – gael ei achosi gan ergyd neu ysgytwad i’r pen o ganlyniad i gwympo, anaf i'r pen wrth chwarae campau neu yn sgil damwain car neu feic.
Effaith
Mae'r symptomau yn cynnwys iselder, nam gwybyddol, cur pen a blinder.
Gyda thystiolaeth yn dod i'r amlwg mai dim ond hanner y bobl fydd yn gwella'n llwyr ar ôl chwe mis, mae hyn yn awgrymu efallai na fydd cyfran fawr yn derbyn gofal ôl-anaf digonol, meddai'r ymchwilwyr.
Dywedodd Dr Emmanuel Stamatakis o’r adran niwrowyddorau clinigol ym Mhrifysgol Caergrawnt: “Ledled y byd, rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o anafiadau trawmatig ysgafn i’r ymennydd, yn enwedig o ganlyniad i syrthiadau yn ein poblogaeth sy’n heneiddio.
“Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw ffordd glir o weithio allan pa un o’r cleifion hyn fydd yn cael adferiad cyflym a pha un fydd yn cymryd mwy o amser.”
Astudiodd yr ymchwilwyr sganiau ymennydd fMRI 108 o gleifion ag anaf trawmatig ysgafn i'r ymennydd. Roeddent yn edrych ar sut mae gwahanol rannau o'r ymennydd yn cydgysylltu â'i gilydd a'u cymharu â sganiau gan 76 o wirfoddolwyr iach.
Canlyniadau'r astudiaeth oedd bod ychydig llai na hanner (45%) yn dal i ddangos symptomau o’u hanaf i’r ymennydd, a’r symptomau mwyaf cyffredin oedd blinder, diffyg canolbwyntio a chur pen.
Yn ôl y canfyddiadau, roedd gan y cleifion hyn ddiffygion mewn rhan o'r ymennydd a elwir yn thalamws, sy'n integreiddio'r holl wybodaeth synhwyraidd ac yn trosglwyddo'r wybodaeth hon o amgylch yr ymennydd.