Y Gwasanaeth Iechyd angen 'gweithio mewn ffyrdd gwahanol' wedi'r pandemig
Y Gwasanaeth Iechyd angen 'gweithio mewn ffyrdd gwahanol' wedi'r pandemig
Fe fydd angen i'r Gwasanaeth Iechyd weithio "mewn ffyrdd gwahanol" wrth geisio adfer wedi'r pandemig, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Roedd Eluned Morgan yn arwain ei chynhadledd Covid-19 gyntaf yn y rôl yn dilyn ad-drefnu y cabinet wedi'r etholiad.
"Ni wedi cyflwyno cynllun. Mae'n un eitha' bras ar hyn o bryd ond fydd fwy o fanylder yn dod yn y fan", dywedodd Ms Morgan.
"Ond, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, falle defnyddio technoleg yn fwy, defnyddio ffurfiau digidol i gysylltu gyda pobol.
"Ond hefyd fe fydd rhaid i ni geisio meddwl mewn ffordd gwahanol a dyna beth dwi wedi gofyn ac awgrymu i'n gwasanaethau iechyd ni i 'neud felly 'yn ni yn gobeithio wrth i ni roi fwy o arian fewn i'r system fydd fwy o obaith i'r pobol yna sydd yn diodde' ar y rhestrau aros", ychwanegodd.
'Deall y bygythiad'
Tra bo'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi cynlluniau i adfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, cafodd sylw hefyd ei roi i'r amrywiolyn Covid-19 a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India.
Mae tystiolaeth yn awgrymu fod yr amrywiolyn hwn o'r feirws yn gallu trosglwyddo yn haws ond mae astudiaeth ddiweddar wedi dangos fod dau ddos o frechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn parhau i amddiffyn rhag effeithiau'r amrywiolyn newydd.
"Mae'n bwysig ein bod ni yn deall y bygythiad gallai ddod fel canlyniad i'r amrywiolyn newydd yma a dyna pam mae'n bwysig bod cymaint o bobl â sy'n bosibl yn cael y frechlyn", rhybuddia'r Gweinidog.
"Wrth gwrs, mae'n gyfnod lle bo ni'n llacio ar y cyfyngiadau sydd wedi bod gyda ni ers dipyn o amser ond 'yn ni yn gobeithio y bydd pobl yn dal i wrando ar y cyngor sydd yn dal i ddod oddi wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru a bod pobl yn dilyn y canllawiau sydd wedi eu setio allan i'r rheiny sydd wedi cael cyfle erbyn hyn i ail-agor".
'Statws tystysgrif brechu'
Mae'r Gweinidog hefyd yn apelio ar bobl i fynd ar eu gwyliau yng Nghymru eleni er i deithio rhyngwladol ail-ddechrau yng Nghymru ar 17 Mai.
Mae system oleuadau traffig bellach ar waith, yn debyg i'r cynllun sydd eisoes yn bodoli yn yr Alban a Lloegr.
Mae unrhyw un sy'n dychwelyd i Gymru o wledydd sydd ar y rhestrau coch neu oren yn gorfod cwblhau cyfnod mewn cwarantin a chymryd prawf am y feirws.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd: "Rydyn ni wedi rhoi system ar waith i gael statws tystysgrif brechu i’r rheini y mae angen iddyn nhw deithio ar frys.
"Dim ond nifer bach o wledydd y mae’n bosibl teithio iddynt heb orfod treulio cyfnod mewn cwarantin, ac ar hyn o bryd does dim llawer o wledydd sy’n gofyn am statws brechu fel tystiolaeth ar gyfer teithio.
"Os oes gwir angen i chi deithio, dylech edrych cyn mynd a yw’r wlad yr ydych yn mynd iddi’n gofyn am dystiolaeth eich bod wedi cael eich brechu", ychwanegodd.