Len Goodman, cyn-feirniad Strictly Come Dancing, wedi marw'n 78 oed
Mae Len Goodman, cyn-feirniad y gyfres ddawnsio boblogaidd Stricly Come Dancing, wedi marw'n 78 oed.
Cyhoeddodd ei asiant y newyddion fore dydd Llun.
Dywedodd ei asiant Jackie Gill mewn datganiad: “Gyda thristwch mawr mae cyhoeddi bod Len Goodman wedi marw’n heddychlon, yn 78 oed.
“Gŵr, tad a thadcu annwyl y bydd teulu, ffrindiau a phawb oedd yn ei adnabod yn gweld colled fawr ar ei ôl.”
Dechreuodd Goodman ddawnsio yn 19 oed, gan ennill amryw o gystadlaethau gan gynnwys Pencampwriaethau Prydain yn Blackpool yn ei 20au hwyr.
Bu Goodman hefyd yn brif farnwr ar Dancing With The Stars, fersiwn yr UDA o’r sioe, am fwy na 15 mlynedd cyn cyhoeddi ei ymddeoliad ym mis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd ar y pryd ei fod eisiau “treulio mwy o amser gyda fy wyrion a fy nheulu” yn ôl yn y DU.
Roedd Goodman hefyd wedi derbyn Gwobr Carl Alan mewn cydnabyddiaeth am ei gyfraniadau eithriadol i ddawns.
Yn ogystal â’i yrfa lwyddiannus ym myd dawnsio a theledu, roedd hefyd yn berchennog ar Academi Goodman, ysgol ddawns yn Dartford, Caint.
Llun: PA
