Newyddion S4C

Rygbi: Cyfle i glybiau greu atgofion yn rowndiau terfynol Cwpanau Cymru

23/04/2023

Rygbi: Cyfle i glybiau greu atgofion yn rowndiau terfynol Cwpanau Cymru

Bydd gemau terfynol Cwpanau Rygbi Cymru yn dychwelyd i Stadiwm y Principality ddydd Sul.  

Bydd y cyfan yn cychwyn am 13:00 wrth i Drecelyn herio Nant Conwy yn rownd derfynol clybiau Adran Un, cyn i Ystrad Rhondda a Phont-y-pŵl gystadlu yn rownd derfynol y Bencampwriaeth. 

Bydd y diwrnod yn dod i derfyn gyda gêm ddarbi yn ffeinal Cwpan yr Uwch Gynghrair Indigo, rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Enillodd Casnewydd Cwpan yr Uwch Gynghrair y llynedd, wrth i Gaerdydd ennill y gynghrair.

Mae'r ddau dîm dal yn y ras am dlws yr Uwch Gynghrair Indigo y tymor hwn ac wedi chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith, gan ennill un gêm yr un.

Mae rheolwr academi Caerdydd Gruff Rees yn edrych ymlaen at ddiwedd y tymor a'r gobaith o ennill y ddau dlws eleni.  

“Mae’n cyfnod mawr i ni, ni 'di bod yn eithaf cyson drwy’r tymor. Oedd blip yn ystod Chwefror a Mawrth gyda’r Chwe Gwlad a cholli bois i’r tîm seniors a thîm dan ugain ond ni ‘di dod nôl o hynny nawr a dangos perfformiadau da yn y mis diwethaf.”

Bydd cryn dipyn o dalent ifanc i'w gweld, gyda chwaraewyr fel Alex Mann a Cameron Winnett yng ngharfan Caerdydd, sydd wedi dangos eu gallu ar lwyfan dan ugain i Gymru.

Image
Lloyd Lewis
Asgellwr Casnewydd a chwaraewr tîm saith bob ochr Cymru, Lloyd Lewis.

Ond mae gan Gasnewydd sawl chwaraewr talentog hefyd, yn cynnwys eu hasgellwr rhyngwladol i dîm saith bob ochr Cymru, Lloyd Lewis.

“Yn bersonol dwi ddim yn nerfus, rwy heb feddwl amdano ormod. Fi mond yn edrych ymlaen at chwarae, mae’n achlysur gwych ac mae hwnna yn yr un peth ar draws y garfan.  "Ni’n awyddus i gael mas yna a chwarae ar lwyfan gorau Cymru, felly mae’n fwy o gyffro nag unrhyw beth arall.

“Gwnaethon ni guro nhw’r tro diwethaf ar Barc yr Arfau, felly mae hynny’n rhoi bach o hyder i ni, ond chwarae teg iddyn nhw, maen nhw’n dîm da, felly i fod yn onest gallai fynd y naill ffordd.

"Fi erioed wedi chwarae yn Stadiwm y Principality o’r blaen felly rwy’n edrych ymlaen am hwnna.  

"Gyda’r gemau sy’n mynd ymlaen cynt gyda Phont-y-pŵl, fi’n gwybod bod dau ddeg o fysys o gefnogwyr Pont-y-pŵl yn mynd lan yna, gobeithio mae cwpl ohonyn nhw yn aros i gêm ni hefyd, ni’n disgwyl i’r gynulleidfa i fod yn fawr.

Nerfau

Mae mewnwr Pont-y-pŵl Owain Leonard yn gobeithio gall y tîm rhoi rhywbeth yn ôl i’r cefnogwyr yn erbyn Ystrad Rhondda.

“Llawer o’r bois heb chwarae ar deledu felly mae rhai ohonynt bach yn nerfus i chwarae gyda phwysau mawr ar y gêm hon.

"Teulu, ffrindiau, pawb fi’n nabod mynd i fod yn gwylio, pawb o waith hefyd. Ni mor lwcus fel clwb, fel tîm i gael llawer o bobl yn dilyn ni bob wythnos, dros Gymru i gyd.

"Maen nhw’n dod pob dydd Sadwrn i weld ni’n chwarae, beth bynnag y tywydd. Ni mor falch i gael nhw’n gwylio ni a'r gobaith yw rhoi nôl iddyn nhw, mae hynny’n llenwi’r bois ag egni a balchder.”

Nant Conwy yw’r unig dîm amatur o’r gogledd sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru ac mae eu hysgrifenyddes Lowri Owain yn gobeithio y gallent ennill y tlws am y tro cyntaf.

“Mae’n andros o hwb i ni fod ni ‘di cyrraedd y ffeinal yng Nghaerdydd, hwn yw’r trydydd gwaith i ni gyrraedd y rownd derfynol felly gobeithio tri chynnig i Gymro fydd hi.

"Y tro cyntaf roedden ni yna yn 2012 colli i Penallta ac wedyn buon ni yn 2018 yn erbyn Brynmawr, colli iddyn nhw, felly gobeithio ennill bydden ni yn erbyn Newbridge dydd Sul.

"Mae gennym ni dros 300 o gefnogwyr, ni ‘di rhedeg allan o docynnau i’w gwerthu, ni’n gobeithio bydd rhai yn cael eu gwerthu hefyd yn siop y WRU.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.