Newyddion S4C

Cymru yn croesawu'r 'her fawr' o chwarae yn erbyn Ffrainc

23/04/2023

Cymru yn croesawu'r 'her fawr' o chwarae yn erbyn Ffrainc

Wrth i Gymru baratoi i wynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae'r hyfforddwr Ioan Cunningham wedi dweud ei fod yn croesawu'r her.

Y penwythnos diwethaf fe gollodd Cymru am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth eleni wrth i Loegr eu chwalu 59-3.

Ond cyn hynny roedd buddugoliaethau yn erbyn Iwerddon a'r Alban wedi sicrhau dechreuad cadarnhaol iawn i Gymru.

Ddydd Sul fe fydd Ioan Cunningham a'i garfan yn herio Ffrainc yn Stade des Alpes, yn Grenoble.

Ffrainc oedd yn fuddugol y llynedd o 33-5, ond mae Ioan Cunningham yn croesawu'r her eleni gan obeithio y bydd ei dîm yn gallu sicrhau canlyniad gwell.

"Bydd Ffrainc yn her fawr i ni, nhw yw un o'r timoedd gorau yn y byd ac roeddem yn gwybod byddai chwarae yn erbyn Lloegr ac wedyn Ffrainc oddi cartref yn her fawr.

"Ond dyma'r heriau ni eisiau, rydym yn dîm uchelgeisiol ac rydym angen gwybod lle i ni o gymharu gyda thimoedd eraill.

"Mae'r chwaraewyr wedi profi eu hun ar y cae ymarfer ac yn haeddu gwisgo'r crys."

Bydd Elinor Snowsill yn ennill cap rhif 75 yn erbyn Ffrainc, tra y bydd y prop Abbey Constable yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf.

Yn y rheng ôl, bydd Kate Williams yn cychwyn dros Gymru am y tro cyntaf fel blaenasgellwr agored.

Ymysg yr olwyr, bydd Carys Williams-Morris yn cychwyn ar yr asgell ar ôl methu’r gêm yn erbyn Lloegr, gyda Lleucu George yng nghanol y cae a’r profiadol Ffion Lewis yn cychwyn fel mewnwr.

Dyma'r garfan llawn i herio Ffrainc:

15. Courtney Keight (Bryste)
14. Lisa Neumann (Caerloyw)
13. Hannah Jones (capten, Caerloyw)
12. Lleucu George (Caerloyw)
11. Carys Williams- Morris (Loughborough Lightning)
10. Elinor Snowsill (Bryste)
9. Ffion Lewis (Caerwrangon)
1. Abbey Constable (Caerloyw)
2. Carys Phillips (Caerwrangon)
3. Cerys Hale (Caerloyw)
4. Abbie Fleming (Caerwysg)
5. Georgia Evans (Saracens)
6. Bethan Lewis (Caerloyw)
7. Kate Williams (Caerloyw)
8. Sioned Harries (Caerwrangon)

Eilyddion
16. Kelsey Jones (Caerloyw)
17. Gwenllian Pyrs (Bryste)
18. Sisilia Tuipulotu (Caerloyw)
19. Bryonie King (Bryste)
20. Alex Callender (Caerwrangon)
21. Keira Bevan (Bryste)
22. Robyn Wilkins (Caerwysg)
23. Niamh Terry (Caerwrangon)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.