Newyddion S4C

Rhagflas o gemau rygbi Dydd y Farn ar ddiwedd tymor cythryblus

22/04/2023

Rhagflas o gemau rygbi Dydd y Farn ar ddiwedd tymor cythryblus

Mae Dydd y Farn yn ôl yn Stadiwm Principality y penwythnos hwn gyda tharian Cymru ar gael i Gaerdydd a’r Gweilch yn ogystal â chyfle olaf i chwaraewyr greu argraff ar hyfforddwr Cymru Warren Gatland cyn Cwpan y Byd. 

Bydd y diwrnod yn cychwyn gyda’r Dreigiau yn erbyn y Scarlets am 15:00, cyn i'r Gweilch herio Caerdydd am 17:00.

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn dra gwahanol ym myd rygbi Cymru gyda diswyddo Wayne Pivac, honiadau o rywiaeth o fewn Undeb Rygbi Cymru, a phroblemau gyda chytundebau chwaraewyr.

I chwaraewyr Caerdydd a’r Gweilch mae Tarian Cymru a lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar gael er bod y ddau dîm ar fin gorffen y flwyddyn yn hanner isaf tabl Pencampwriaeth Unedig Rygbi.

Cafodd y Gweilch flas ar gystadleuaeth uchaf Ewrop eleni, gyda buddugoliaethau yn erbyn pencampwyr Lloegr a Ffrainc - gyda Chaerdydd yn profi buddugoliaeth emosiynol a chofiadwy dros Sale yng Nghwpan Her Ewrop.

Image
Gweilch
Y Gweilch yn dathlu yn erbyn y Saraseniaid eleni. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae blaenwr Y Gweilch Rhys Davies yn credu fod hawlio lle yng nghwpan uchaf Ewrop yn hollbwysig ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Ni ‘di gweld pa mor bwysig i’n tymor oedd Cwpan Pencampwyr Ewrop, gwnaeth e droi ein tymor o gwmpas ar un adeg. Ni eisiau bod nôl yno, ar ben y bwrdd, mae’n gystadleuaeth fawr."

Ond gyda chymaint o chwaraewyr yn gadael ar ddiwedd y flwyddyn mae hyfforddwr y Gweilch Toby Booth â phryderon am gryfder y garfan am y flwyddyn sydd i ddod.

“Rwy’n credu ni gyd bach yn nerfus am beth mae’r dyfodol mynd i edrych fel o safbwynt dyfnder carfan ac o safbwynt cystadlaethau. Felly, mae yna gydbwysedd o fod yn ofalus beth ydych yn ennill lle ynddo. Yr her fawr yw edrych beth mae’r dyfodol yn edrych fel a sut gallen ni aros yn gystadleuol.”  

Collodd Caerdydd y cyfle i gipio Tarian Cymru'r wythnos ddiwethaf yn erbyn Connacht ar ôl colli 38-19 yn Galway, ond fe gaiff y tîm ail gyfle wythnos yma lle bydd dau bwynt bonws neu gêm gyfartal yn ddigon i sicrhau’r tlws. 

Bydd y garfan wedi ei siglo yn dilyn y newyddion fod cyfarwyddwr rygbi'r clwb, Dai Young, wedi cael ei wahardd yn gynharach yr wythnos hon.

Mae'r capten Josh Turnbull yn ysu i weld torf yn ôl yn Stadiwm Principality ar ôl y pandemig.

“Mae’n wych i weld pawb nôl yn y stadiwm, pob amser ni 'di chwarae yma maen nhw wedi bod yn gemau mawr. Gobeithio gewn ni dorf dda hefyd ac mae’n rhoi pwysau arnom ni i ddod i ffwrdd yn ennill rhywbeth.” 

“Dyw e ddim ‘di bod yn hawdd i ddweud y gwir yn erbyn y Gweilch, ond ni yn edrych ymlaen. Ni wedi bod yn chwarae’n dda tymor yma, ni angen gwneud yn siŵr bod ni’n dod mas ‘na a thîm cryf i gael y fuddugoliaeth."

Yng ngêm arall y dydd bydd y Dreigiau yn chwarae’r Scarlets.

Image
Ken Owens
Ken Owens o'r Scarlets  - Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae Ken Owens yn gobeithio bydd y gêm yn gallu help'r Scarlets i gadw'r momentwm ar gyfer eu gêm gyn-derfynol yn Ewrop.

"Mae'n bwysig iawn i orffen y tymor ar nodyn positif.

"Gathon ni dechreuad araf i'r tymor, so i gorffen y tymor ar nodyn positif, cadw'r momentwm yn mynd mewn i Ewrop, i neud yn siŵr bod rhywbeth gyda ni i chwarae at tymor nesaf.

"Mae'n agos rhwng rhanbarthau Cymru a mae pawb mo'yn cael un dros ei gilydd."

Enillodd y Scarlets yn erbyn y Dreigiau ar Barc y Scarlets ar Ddydd Calan ac ers hynny mae record y ddau yn 2023 wedi bod yn gwbl wahanol - gyda’r Scarlets yn ennill pob gêm heblaw am ddwy eleni, a’r Dreigiau wedi colli pob gêm ond un. 

Mae canolwr y Dreigiau Steff Hughes yn credu bydd y record yma'n mynd “allan o'r ffenest” yn ystod cynnwrf y gêm ddarbi fawr yng Nghaerdydd. 

“Mae’n ddiwrnod gwych i ni fel chwaraewyr, does dim llawer o ni’n cael y cyfle i chwarae yma’n aml felly mae’n neis i gael cyfle i chwarae yma, hefyd i’r dorf, gobeithio gewn ni dorf dda. Felly ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn a gobeithio bydd e’n achlysur grêt. 

“Mae’r Scarlets yn chwarae’n dda ar y funud, maen nhw’n chwarae llawn hyder ac maen nhw ar rediad ardderchog yn enwedig yn Ewrop, felly mae’n mynd i fod yn gêm galed i ni ond cyfle grêt i ni i fynd lan yn erbyn tîm sy’n chwarae’n dda a gosod stamp ni ar y gêm.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.