Wrecsam un fuddugoliaeth i ffwrdd o godi i Adran Dau
Wrecsam un fuddugoliaeth i ffwrdd o godi i Adran Dau

Dim ond un fuddugoliaeth sydd yn gwahanu Wrecsam ac Adran Dau, gyda chyfle i dîm Phil Parkinson gael eu dyrchafu os ydynt yn ennill yn erbyn Boreham Wood ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.
Mae'r Dreigiau un fuddugoliaeth yn unig o gael dychwelyd i Adran Dau ar ôl curo Yeovil Town o 3-0 ddydd Mawrth.
Mae hyn yn golygu fod Wrecsam bellach bedwar pwynt yn glir o Notts County gyda dwy gêm i fynd, a byddai curo ddydd Sadwrn yn ddigon i sicrhau dyrchafiad.
Dyma fyddai'r tro cyntaf i Wrecsam ddychwelyd i chwarae yn Adran Dau mewn 15 mlynedd.
Byddai unrhyw beth heblaw am fuddugoliaeth i Wrecsam yn golygu mai gêm ola'r tymor fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael dyrchafiad awtomatig i Adran Dau, gyda'r Dreigiau yn wynebu Torquay United a Notts County yn herio York.
Ar hyn o bryd, mae gan Wrecsam 107 pwynt, sydd hefyd yn torri record pwyntiau'r gynghrair, ac mae Boreham Wood yn chweched.
Bydd Notts County yn wynebu Maidstone am 15:00 ddydd Sadwrn, a byddai colli'r gêm hon hefyd yn sicrhau'r bencampwriaeth i'r Dreigiau.
Treuliodd Wrecsam 136 o flynyddoedd yn y gynghrair bêl-droed cyn disgyn i'r Gynghrair Genedlaethol ar ddiwedd tymor 2007/08, ac ers hynny, maent wedi treulio cyfnod o 15 mlynedd yn chwarae yno.
Ers i Ryan Reynolds a Rob McElhenney ddod yn berchnogion y clwb ym mis Tachwedd 2020, mae'r clwb wedi mynd o nerth i nerth, gyda thîm merched Wrecsam hefyd yn sicrhau dyrchafiad i gynghrair yr Adran Premier y tymor nesaf.
'Hyderus'
Yn ôl y sylwebydd pêl-droed Dylan Griffiths, mae Wrecsam "wedi boddi wrth ymyl y lan yn y gorffennol ond dwi'n hyderus gyda'r rheolwr Phil Parkinson, mae o wedi profi llwyddiant, mae o wedi cael dyrchafiad deirgwaith yn ystod ei yrfa, mi fydd y perchnogion o Hollywood yna hefyd.
"Fydd hi ddim yn gêm hawdd, ma' Boreham Wood wrth gwrs yn gobeithio sicrhau eu lle nhw yn y gema' ail-gyfle ond gyda'r chwaraewyr, torf o dros 10,000 ar y Cae Ras, ma'r cynhwysion yna gobeithio i sicrhau dyrchafiad."