Lidl yn fuddugol mewn achos llys yn erbyn Tesco dros ddefnydd o logo
Mae Lidl wedi sicrhau buddugoliaeth mewn achos cyfreithiol yn yr Uchel Lys yn erbyn archfarchnad Tesco dros eu defnydd o logo cylch melyn.
Dywedodd barnwr mewn dyfarniad ddydd Mercher ei bod wedi ochri gyda dadl Lidl yn eu honiadau fod Tesco wedi torri nod masnach a hawlfraint.
Roedd Mrs Ustus Joanna Smith yn gyfrifol am ddyfarnu mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn Llundain yn gynharach eleni.
Mae Lidl yn defnyddio cylch melyn ar brif logo'r cwmni tra bod Tesco yn defnyddio logo cylch melyn i hyrwyddo eu cynllun Clubcard.
Dywedodd llefarydd ar ran Lidl ar ôl y dyfarniad: “Rydym yn falch bod y llys wedi cytuno gyda ni.”
Dywedodd llefarydd ar ran Tesco: “Rydym wedi ein synnu a’n siomi gan y penderfyniad heddiw mewn perthynas â’r cais a gyflwynwyd gan Lidl yn erbyn ein logo Clubcard Prices.”
Ychwanegodd: “Rydym yn bwriadu apelio.”