Deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i achub cartref Glyndŵr yn cyrraedd ei tharged
Mae deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i brynu cartref Owain Glyndŵr, Sycharth, wedi cyrraedd ei tharged o 10,000 o lofnodion.
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.
Mae’r ddeiseb yn dweud fod Sycharth wedi mynd “bron yn angof” a “nad yw'r lle ddim yn hygyrch iawn i bobl gael ymweld”.
“Mae'n amser i'r Llywodraeth fynd ati i sicrhau bod y safle hollbwysig yma'n cael ei gadw'n saff i'r genhedlaeth nesaf, drwy ei brynu a'i wneud yn fwy hygyrch i bobl allu mynd yno i werthfawrogi'r safle bendigedig yma,” meddai'r ddeiseb.
“Mae'n siomedig gweld yr holl gestyll o gwmpas Cymru'n cael eu gwarchod, a bod y safle yma prin yn cael ei hysbysebu, heb sôn am ddathlu.”
Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesddol Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw Sycharth ar hyn o bryd, ond mae'r tir yn eiddo preifat.
'Gobaith'
Wrth i’r ddeiseb gyrraedd ei tharged 10,000 dywedodd trefnydd y ddeiseb Elfed Wyn ap Elwyn ei fod wedi ei synnu gan y “gefnogaeth anhygoel”.
“Mae’n adlewyrchu diddordeb y cyhoedd mewn amddiffyn safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol,” meddai.
Dywedodd fod angen sicrhau bod rhagor o adnoddau yno er mwyn dweud hanes Sycharth.
“Gobeithio y bydd hyn yn sail i weld llefydd eraill yng Nghymru o fudd hanesyddol yn cael eu datblygu a’u dathlu,” meddai.
'Buddsoddi'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw "yn ymwybodol o’r ddeiseb ac yn croesawu diddordeb y cyhoedd yn yr ased hanesyddol pwysig hwn".
"Mae’r safle’n wedi’i ddynodi’n heneb gofrestredig o bwysigrwydd cenedlaethol – sef y lefel uchaf o warchodaeth gyfreithiol ar gyfer ased hanesyddol - ac felly yn cael ei gydnabod a’i warchod yn ffurfiol," meddai.
“Mae Cadw wedi buddsoddi yn Sycharth ac mae perchnogion y safle, Ystâd Llandegwyn, wneud gwelliannau i’r maes parcio a'r mynediad i'r safle yn gynharach eleni gyda chyllid gan Cadw.
“Fel gyda phob deiseb gyda’r Senedd, byddwn yn ymateb pan fydd y Pwyllgor yn gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.”
Llun: Sycharth gan Llywelyn2000 (CC BY-SA 4.0).