Melbourne yn cipio teitl 'dinas fwyaf Awstralia' oddi ar Sydney
Mae Sydney wedi colli ei statws swyddogol fel dinas fwyaf Awstralia.
Daw wedi i ddinas Melbourne yn nhalaith Victoria gipio’r teitl am y tro cyntaf ers 1905.
Yn ôl ffigyrau mwyaf diweddar y llywodraeth o fis Mehefin 2021 roedd poblogaeth Melbourne 18,700 yn fwy na Sydney, gyda chyfanswm o 4,875,400 o bobl yn byw yno.
Daw’r newid wrth i ardal Melton ar gyrion Melbourne gael ei hychwanegu o fewn terfynau y ddinas honno.
Mae Swyddfa Ystadegau Awstralia yn diffinio "ardal drefol sylweddol" dinas trwy gynnwys pob maestref sy'n cynnwys mwy nag 10,000 o bobl.
Ond mae ardal ddinesig ehangach Sydney gan gynnwys pob tref a dinas ar ei chyrion yn parhau yn fwy poblog na Melbourne. Mae hynny'n cynnwys poblogaethau sy’n cymdeithasu, yn siopa neu’n gweithio’n rheolaidd yn y ddinas ond sydd ddim yn byw yn y ddinas ei hun.
Fodd bynnag, mae’r llywodraeth ffederal yn rhagweld y bydd ardal ddinesig ehangach Melbourne yn fwy poblog nag un Sydney erbyn 2031-32.