Dwy fenyw wedi'u cludo i'r ysbyty wedi tân mewn tŷ ym Mangor

16/04/2023
S4C

Mae’r gwasanaethau brys yn delio gyda thân mewn tŷ ym Mangor, ac mae dwy fenyw wedi eu cludo i'r ysbyty.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r adeilad ar Friars Avenue ychydig cyn 10:45 fore Sul.

Anfonwyd wyth peiriant tân i'r digwyddiad, ynghyd â llwyfan ysgol awyrol ac uned rheoli digwyddiadau.

"Roedd y tŷ teras ar dân wrth gyrraedd ac roedd tai cyfagos wedi eu heffeithio hefyd," meddai'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae'r gwasanaethau brys yn parhau ar y safle.

"Mae'r gwasanaethau brys yn delio â thân ar Friars Avenue Bangor, osgowch yr ardal os yn bosib," meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Llun gan Simon Murray/@SIMONrun ar Twitter.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.