Y dylunydd ffasiwn Mary Quant wedi marw'n 93 oed
Mae’r Fonesig Mary Quant, y dylunydd ffasiwn a wnaeth boblogeiddio’r sgert mini, wedi marw'n 93 oed.
Fel un o ffigyrau mwyaf blaengar ffasiwn yn ystod y ‘60au roedd y Fonesig Quant yn cael ei chydnabod am ei chyfraniad i’r steil mod gyda’i dyluniadau syml a bywiog.
Yn ferch i ddau o athrawon ysgol Cymraeg, cafodd y Fonesig Quant ei geni yn dde-ddwyrain Llundain yn 1930.
Mewn datganiad cadarnhaodd ei theulu: “Bu farw’r Fonesig Mary Quant yn heddychlon yn ei chartref yn Surrey, DU, y bore yma.
“Roedd y Fonesig Mary, oedd yn 93 oed, yn un o ddylunwyr ffasiwn fwyaf adnabyddus yr 20fed ganrif ac yn arloeswr rhagorol yn y Swinging Sixties.”
Ymysg ei gwaith arall roedd y Fonesig Quant yn gyfrifol am ddylunio trowsus i fenywod, teits a cholur.
Mewn teyrnged a rhannodd ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd Alexandra Shulman, cyn-olygydd Vogue Prydain: “Gorweddwch mewn heddwch y Fonesig Mary Quant.
“Arweinydd ffasiwn ond hefyd mewn entrepreneuriaeth fenywaidd – roedd ganddi weledigaeth a oedd yn llawer mwy na’i gwallt gwych yn unig.”