Newyddion S4C

Arddangosfa yn dangos 'dull newydd sbon' o ymchwilio agweddau at annibyniaeth

13/04/2023

Arddangosfa yn dangos 'dull newydd sbon' o ymchwilio agweddau at annibyniaeth

Bydd arddangosfa newydd yn agor yn Aberystwyth ddydd Iau fydd yn nodi "newid sylfaenol" yn y ffordd y mae agweddau pobl at annibyniaeth yn cael ei astudio medd y trefnwyr.

Yn rhan o brosiect gan Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth, mae’r arddangosfa yn dangos sut y defnyddiwyd ffotograffiaeth i archwilio teimladau pobl at annibyniaeth yng Nghymru, Catalwnia a’r Alban.

Yn ôl Dr Elin Royles, “ni yw’r cyntaf yn y byd i ddefnyddio’r ddull yma a dylai ychwanegu lliw a chysgod at yr hyn sy’n hysbys hyd yma”.

Er mwyn mynd ati i ymchwilio, gofynywd i glwb ffotograffiaeth Aberystwyth ynghyd â ffotograffwyr o’r Alban a Chatalwnia gynhyrchu cyfres o luniau o dan y thema ‘Annibyniaeth’.

Dywedodd Dr Anwen Elias i glwb ffotograffiaeth Aberystwyth “adlewyrchu’r thema mewn ffyrdd gwahanol iawn”.

“Be 'da ni’n gweld o’r canlyniadau yw fod yna amrywiaeth eang o ffyrdd o ymateb i’r syniad yma o annibyniaeth. Mae rhai pobl yn pwysleisio fod diwylliant, hanes ac iaith y Cymry yn bwysig, a’r pethau yna ddim yn bwysig i eraill”.

Ychwanegodd bod “nifer o bobl hefyd yn pwysleisio ystyriaethau gwleidyddol, economaidd” a bod yna “lawer o ansicrwydd ynglŷn â beth mae annibyniaeth yn ei olygu i’r dyfodol”.

Mae defnyddio ffotograffiaeth fel rhan o brosiect ymchwil wedi bod “yn brofiad hollol newydd” i Dr Anwen Elias.

“Dwi ‘di cael fy argyhoeddi mewn ffordd nad oeddwn i’n ei ddisgwyl fod ffotograffiaeth yn gallu bod yn ddull hynod effeithiol o gael pobl i feddwl am destun anodd fel annibyniaeth”.

Mae’r arddangosfa’n cael ei lansio’n ffurfiol nos Iau gan Aelod Seneddol Ceredigion a Llywydd y Senedd, Elin Jones.

Dywedodd ei bod yn “croesawu’r” ymchwil newydd hwn a bod “datblygu dealltwriaeth ddyfnach o farn pobl ar annibyniaeth yn bwysig i ddemocratiaeth Cymru”.  

Bydd yr arddangosfa ‘Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru’ ar agor i’r cyhoedd ym mandstand Aberystwyth tan ddydd Sadwrn, gydag arddangosfeydd o’r casgliad hefyd ar y gweill yn Barcelona a Chaeredin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.