Newyddion S4C

System iechyd yng Nghymru yn ‘teimlo fel brwydr’ i bobl drawsryweddol

ITV Cymru 12/04/2023

System iechyd yng Nghymru yn ‘teimlo fel brwydr’ i bobl drawsryweddol

Mae dyn ifanc wedi beirniadu gofal iechyd i bobl drawsryweddol yng Nghymru, gan ddweud ei fod yn teimlo fel ‘brwydr’.

Mewn rhaglen ddogfen i ITV Cymru, roedd Joey Davies, 19, wedi sôn bod ei brofiad e o gael gofal yn “cymryd gormod o amser” ac yn “teimlo fel interrogation weithiau”.

Gwasanaeth Rhywedd Cymru sy’n gyfrifol am gyfeiriadau oddi wrth Feddygon Teulu i bobl sydd am gael cefnogaeth a thriniaeth ar faterion rhywedd. 

Mae’r gwasanaeth yn dîm gweinyddol a chlinigol amlddisgyblaeth sy'n cynnwys Ymgynghorwyr, Clinigwyr Rhywedd, Seicolegwyr Clinigol, Therapyddion Iaith, a Rheolwyr.

Nid yw Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn darparu gofal na chyngor i unrhyw un o dan 18 oed, ond mae modd ymuno â’r rhestr aros cyn hynny. 

Er bod cynnydd wedi bod yn nifer y cyfeiriadau i’r gwasanaeth, mae’r amser aros am yr apwyntiad cyntaf wedi gostwng o 26 mis i tua 18 mis. 

Nod apwyntiadau’r gwasanaeth yw deall cefndir, amgylchiadau presennol, a chynlluniau dyfodol unigolion. Os mai dymuniad y claf yw i gael therapi hormon, gall argymhelliad i Dîm Rhyw Lleol neu feddyg teulu gael ei wneud.

Fe wnaeth Joey aros am ddwy flynedd cyn ei apwyntiad cyntaf ymhlith nifer, gyda seicolegydd, er mwyn iddo gael diagnosis o ddysfforia rhywedd. 

Dyma gyflwr lle mae person yn cael profiad anghysurus neu drallod oherwydd bod diffyg cyfatebiaeth rhwng eu rhyw biolegol a hunaniaeth rhywedd.

Ar ôl cael y diagnosis yma, mae unigolion yn medru dechrau’r broses o gael triniaeth i newid eu rhywedd yn feddygol. 

Ers iddo symud o Gaerdydd i’r brifysgol ym Manceinion, ac eisoes yn rhan o system iechyd Lloegr, mae Joey yn dal i wynebu rhagor o aros i allu derbyn ei bresgripsiwn testosteron. 

 

Image
newyddion

“Sai’n credu bod digon o bobl yn ei gweld hi fel rhywbeth mae pobl draws yn ei angen,” meddai.

Eglurodd y myfyriwr: “Mae hi’n feddyginiaeth sy’n achub bywyd, oherwydd mae’n rhywbeth sy’n rhan mor fawr ohonoch chi. Pan dyw’r tu allan ddim yn cyfateb â’r tu mewn, mae’n cael effaith fawr ar eich iechyd meddwl.

“Mae hi’n rili rhwystredig gorfod aros hyd yn oed yn fwy ar ôl aros am flynyddoedd”.

Nod nesaf Joey yw cael llawdriniaeth, ond mae’r rhan fwyaf o lawfeddygon yn awgrymu aros o leiaf 6 mis ar ôl dechrau cymryd hormonau er mwyn dechrau gweld effaith y feddyginiaeth. 

Mae hyn, ynghyd â phris y driniaeth yn achosi mwy o bryder i Joey. 

“Mae hi’n teimlo bach yn annheg ei bod hi mor ddrud” meddai, ac mae’n dadlau na ddylai’r llawdriniaethau gael eu hystyried yn rhai cosmetig.

Eglurodd ei fod yn “hollol anghyfforddus” gyda'r ffordd mae ei gorff yn edrych.

“Sai’n credu bod e’n cael ei trin fel rhywbeth mor ddifrifol”.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi ymrwymo i ostwng amseroedd aros ar gyfer asesiadau cyntaf ac yn ceisio sicrhau bod apwyntiadau yn cael eu cynnig o fewn cyfnod priodol”.

Yn ogystal, mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n gweithio gyda’r gwasanaeth rhywedd: “Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn falch o’i ethos blaengar ac yn gweithio yn agos gyda chleifion i sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt”.

Mae’r rhaglen, Trawsnewid Bywyd, ar gael i’w gwylio nawr ar gyfrif YouTube Hansh, BBC iPlayer, ac S4C clic. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.