Cleifion yn derbyn triniaeth mewn cadeiriau wrth aros 'dros 48 awr' am wely
Mae arolygiad i ysbyty yn y de wedi canfod bod cleifion yn derbyn triniaeth mewn cadeiriau ac yn aros "mwy na 48 awr" am wely.
Dywedodd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod rhai cleifion yn derbyn triniaeth mewn mannau aros yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Roedd hyn yn "amharu ar breifatrwydd, urddas a chysur" y cleifion, meddai'r adroddiad.
Cafodd yr arolygiad ei gynnal yn ddirybudd dros gyfnod o dri diwrnod ym mis Awst.
Un o'r prif ganfyddiadau oedd bod "staff ymroddedig yn gweithio'n galed" ond mewn "amgylchedd heriol."
Dywedodd Gareth Hughes, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei fod yn croesawu canfyddiadau'r arolygiad.
'Eistedd mewn cadair am 48 awr'
Fel rhan o'r arolygiad fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Cymru siarad gydag aelodau o staff yr ysbyty.
Dywedodd Gofal Iechyd Cymru eu bod yn "sicr bod y staff yn ceisio cymryd camau rhagweithiol drwy gydol pob shifft i ddefnyddio ardaloedd clinigol yn briodol", ond bod y mater o wneud hyn yn "destun pryder sylweddol."
Dywedodd un aelod o staff bod rhai cleifion yn treulio hyd at 48 awr mewn cadair yn derbyn triniaeth cyn bod gwely ar gael.
“Ni ddylai unrhyw glaf fyth orfod eistedd mewn cadair am gyfnod hir wrth gael ei drin," meddai.
"Nid yw rhai aelodau o dîm yr ysbyty yn rhoi blaenoriaeth i'r cleifion hyn wrth drefnu gwelyau gan nad ydynt ar fan gwastad ac felly nad ydynt yn helpu i drosglwyddo claf oddi ar ambiwlans.
"Felly, weithiau, byddan nhw yn y gadair am fwy na 24 i 48 awr."
Nid yw hyn yn broblem unigryw i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, meddai'r arolygiad.
Ledled Cymru mae "heriau systemig sy'n gyffredin i lawer o adrannau achosion brys, y gellir eu priodoli'n bennaf i lif cleifion gwael drwy'r ysbyty."
'Urddas a pharch'
Nododd yr adroddiad bod yr adran achosion brys yn cael ei rheoli'n "dda ar y cyfan" yn yr ysbyty.
Hefyd roedd staff yn rhoi gofal "parchus yn gyson mewn amgylchedd glân a chefnogol, gan gyfathrebu'n glir a dangos tosturi hyd yn oed ar adegau prysur."
Dywedodd un person wrth yr arolygiad bod y staff wedi trin eu tad gyda "pharch ac urddas."
"Alla i ddim diolch digon i staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg am y ffordd y gwnaethon nhw drin fy nhad ar ddau ymweliad â'r adran damweiniau ac achosion brys yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.
"Gwnaeth pob un ohonynt ei drin ag urddas a pharch, gwnaethant wrando arno a gwrando arnon ni. Aethant ati i esbonio pethau mewn ffordd y gallwn ei deall. Alla i ddim gweld bai ar unrhyw beth.”
Ychwanegodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: “Mae ein harolygiad yn tynnu sylw at ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff sy'n gweithio o dan amgylchiadau heriol, yn ogystal â'r meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau i sicrhau diogelwch cleifion a llesiant staff."
'Gwelliannau parhaus'
Mae Gareth Hughes, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dweud ei fod yn cynabod bod "oedi" wrth dderbyn gofal.
Ychwanegodd bod Ysbyty Brehninol Morgannwg eisoes yn gwneud newidiadau i wella problemau.
“Rydym yn croesawu canfyddiadau adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dilyn yr arolygiad diweddar o’r adran achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
“Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod ymroddiad a phroffesiynoldeb ein staff, sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel, tosturiol a pharchus i gleifion, yn aml mewn amgylchiadau heriol iawn.
“Hefyd rydym yn cydnabod bod gormod o’n cleifion yn profi oedi yn yr amser y maent yn ei gymryd i gael mynediad at ofal y tu hwnt i’r adran achosion brys oherwydd yr heriau parhaus sy’n wynebu pob bwrdd iechyd."
Ychwanegodd: “Rydym eisoes yn gweithredu cynllun gwella cynhwysfawr i fynd i’r afael â’r meysydd a nodwyd yn yr adroddiad."
