James Newman yn gwenu trwy'r siom yn Eurovision

O weld James Newman yn gwenu o glust i glust wrth i ganlyniadau’r Eurovision gael eu cyhoeddi, bydde chi’n cael maddeuant am feddwl ei fod wedi derbyn sgôr gwell na’r hyn a gafodd.
Ond yn anffodus, cafodd y Deyrnas Unedig ddim yr un pwynt yn ystod y gystadleuaeth nos Sadwrn, o’i gymharu â sgôr buddugol yr Eidal o 524.
Cafodd Newman ei ddewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig gyda'r gân, Embers.
Wrth gyhoeddi'r canlyniadau, dywedodd Graham Norton: "Mae'n sioe siomedig yn amlwg i'r DU.
“Mae siomedig yn ei roi e’n ysgafn – dw i’n trio rhoi sbin positif ar y peth, ond does 'na ddim da yn dod o hynny a dweud y gwir.
“Rwy’n teimlo mor flin dros James," meddai.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: BBC