Tanio hen fom o'r Ail Ryfel Byd ar draeth poblogaidd ar Ynys Môn
Tanio hen fom o'r Ail Ryfel Byd ar draeth poblogaidd ar Ynys Môn

Mae dyfais ffrwydrol wedi cael ei thanio o dan reolaeth ar draeth poblogaidd ar Ynys Môn.
Cafodd Gwylwyr y Glannau Rhosneigr a Bangor, yr heddlu a'r Tîm Difa Bomiau eu galw i ddelio gyda'r ddyfais, a gafodd ei darganfod ar draeth Llanddwyn ger Niwbwrch ddydd Sadwrn.
Roedd y ddyfais ffrwydrol yn un o gyfnod yr Ail Ryfel Byd yn ôl Gwylwyr y Glannau Rhosneigr.
Bu'n rhaid cau ardal o'r traeth am gyfnod er mwyn diogelu'r cyhoedd wrth i'r Tîm Difa Bomiau baratoi i danio'r ddyfais.
Mae Gwylwyr y Glannau wedi rhyddhau fideo o'r foment y digwyddodd y ffrwydrad.
Dywedodd Tîm Gwylwyr y Glannau Rhosneigr: "Fe wnaeth y Tîm Difa Bomiau danio'r ddyfais yn ddiogel.
"Yn dilyn y tanio a chadarnhad gan y Tîm Difa Bomiau, fe wnaeth y timau achub ddychwelyd i'w gorsafoedd.
"Os dewch chi o hyd i rywbeth amheus ar y traeth, gadewch lonydd iddo, ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau."