Abertawe ar y ffordd i Wembley ar ôl buddugoliaeth dros Barnsley

Mae tîm pêl-droed Abertawe wedi sicrhau safle yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth ar ôl curo Barnsley o 2-1 dros ddau gymal y gêm gynderfynol.
Mae Golwg360 yn adrodd prif ddigwyddiadau gêm nos Sadwrn, lle roedd 3,000 o gefnogwyr yn cael mynychu am y tro cyntaf.
1-1 oedd y sgôr yn Stadiwm Liberty.