Y ddarlledwraig Nicola Heywood Thomas wedi marw'n 67 oed
Mae'r ddarlledwraig Nicola Heywood Thomas wedi marw yn dilyn cyfnod o salwch.
Roedd hi'n 67 oed.
Yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i gynulleidfa eang, roedd hi'n ddarlledwraig a newyddiadurwr o'r radd flaenaf.
Bu'n gweithio fel prif gyflwynydd newyddion HTV am 18 o flynyddoedd yn y dyddiau cyn i'r sianel newid i ITV.
Fe wnaeth hi hefyd weithio i BBC Cymru gan gyflwyno a gohebu ar raglen Wales Today.
'Eiconig'
Enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gwaith ac yn dilyn ei marwolaeth cafodd ei disgrifio gan ITV fel "un o'i wynebau mwyaf eiconig."
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Radio Wales: "Mae Cymru wedi colli un o'i darlledwyr gorau. Mae Nicola wedi bod yn llais darlledu'r celfyddydau yng Nghymru am dros 25 o flynyddoedd."
Dywedodd golygydd BBC Radio Wales, Carolyn Hitt fod ei marwolaeth yn golled enfawr.
"Mae'n golled enfawr i ddarlledu Cymru. Roedd hi'n newyddiadurwr eiconig ac yn hyrwyddwr celfyddydau Cymreig."
A huge loss to Welsh broadcasting. All of us at @BBCRadioWales are deeply saddened at the death of our wonderful colleague & friend Nicola Heywood Thomas. An iconic journalist & champion of Welsh arts. Condolences to Nicola’s family - especially her children Tom, Beca and Alys. https://t.co/IQMPLNtWp7
— Carolyn Hitt (@carolyn_hitt) April 6, 2023