
Nifer o achosion o dipio gweddillion anifeiliaid ar ochr ffyrdd yng Ngwynedd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys lluniau all beri gofid i rai
Mae pryderon wedi codi yn Arfon am achosion cynyddol o esgyrn a gweddillion anifeiliaid yn cael eu tipio yn anghyfreithlon ar ochr ffyrdd mewn nifer o leoliadau gwahanol dros y dyddiau diwethaf.
Ddydd Sadwrn fe wnaeth Cyngor Gwynedd apelio am wybodaeth yn dilyn achosion o dipio anghyfreithlon ger Ffordd yr Orsaf ym Mhenygroes.
Yn ôl y cyngor roedd gweddillion anifeiliaid wedi eu gadael ger mynedfa safle Wynnstay yn y pentref.
Ers i Newyddion S4C gyhoeddi'r stori ddydd Sadwrn, mae nifer o drigolion yr ardal wedi cysylltu i ddweud bod sawl achos arall wedi digwydd yn lleol hefyd.
Mae pobl wedi dweud wrth Newyddion S4C fod achosion o dipio'r gweddillion wedi digwydd deirgwaith mewn wythnos yn ardal Lôn Ddŵr yn Llanllyfni, ac yn ardal Y Foryd ger Caernarfon.
Mae lluniau'n dangos y gweddillion, allai fod wedi dod o'r broses baratoi bwyd, wedi eu lluchio mewn bocsys a bagiau plastig i wrychoedd yn lleol.
Wrth drafod yr achos ger safle Wynnstay, dywedodd Cyngor Gwynedd mewn datganiad: "Nid yw Cyngor Gwynedd yn goddef ymddygiad o’r fath a gallwn gymryd camau i gosbi'r rhai y canfyddir eu bod wedi cyflawni troseddau amgylcheddol" meddai llefarydd mewn datganiad.
Mae'r cyngor yn apelio am unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, neu os yw'r cyhoedd wedi gweld unrhyw weithgareddau amheus yn yr ardal i gysylltu gyda nhw.
Lluniau: Bethan Russell Williams


