Newyddion S4C

Cynnal ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth menyw feichiog

Sarah Montgomery

Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi’i lansio ar ôl i fenyw feichiog gael ei darganfod yn farw yn Sir Down, Gogledd Iwerddon.

Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi enw'r fenyw fu farw, sef Sarah Montgomery, oedd yn 27 oed ag yn fam i ddau o blant.

Mae dyn 28 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y Dditectif PrifArolygydd Tom Phillips fod yr heddlu wedi derbyn adroddiad tua 14.15 ddydd Sadwrn am fenyw anymwybodol gydag anaf difrifol y tu mewn i dŷ yn ardal Elmfield Walk yn Donaghadee.

“Mynychodd swyddogion, ynghyd â chydweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Gogledd Iwerddon, a roddodd driniaeth feddygol yn y fan a’r lle,” ychwanegodd.

Dywedodd fod y fenyw, a oedd yn feichiog, wedi marw yn y fan a’r lle.

“Mae ymholiadau yn eu camau cynnar i’r achos hynod drasig hwn. Mae ein meddyliau hefyd gyda theulu Sarah yn ystod yr amser anodd hwn wrth iddynt frwydro i ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd,” ychwanegodd Mr Phillips.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.