Starmer yn condemnio 'araith gasineb erchyll' yng Ngŵyl Glastonbury

30/06/2025
Keir Starmer

Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi condemnio "araith gasineb erchyll" yng Ngŵyl Glastonbury dros y penwythnos.

Fe wnaeth y rapiwr Bobby Vylan, aelod o'r ddeuawd Bob Vylan, annog pobl i ymuno gydag ef wrth weiddi: “Marwolaeth, marwolaeth i’r IDF” – sef byddin Israel. 

Mae Gŵyl Glastonbury wedi dweud eu bod "wedi eu dychryn" gan sylwadau Bob Vylan yn ystod y perfformiad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ŵyl bod y sylwadau wedi "croesi llinell" a bod y trefnwyr yn atgoffa pawb sy'n rhan o'r tîm cynhyrchu nad oes "unrhyw le am wrth-semitiaeth" na chwaith iaith sy'n annog "casineb neu drais".

Wrth ymateb i’r caneuon gan Bob Vylan, dywedodd Syr Keir: "Nid oes esgus dros y math hwn o araith gasineb erchyll.

"Dywedais na ddylid rhoi llwyfan i Kneecap ac mae hynny’n wir am unrhyw berfformwyr eraill sy’n gwneud bygythiadau neu’n annog trais.

"Mae angen i’r BBC esbonio sut y daeth y golygfeydd hyn i gael eu darlledu."

Image
Bob Vylan yn Glastonbury 2025
Bob Vylan yn ystod ei berfformiad yng Ngŵyl Glastonbury (Llun: Yui Mok/PA Wire)

Roedd aelod o’r triawd Kneecap, sy’n canu yn yr iaith Wyddeleg yn ogystal â Saesneg, wedi awgrymu y dylai eu cefnogwyr greu aflonyddwch y tu allan i achos llys aelod y band, Liam Óg Ó hAnnaidh, ym mis Awst yn ystod eu perfformiad ar y llwyfan ddydd Sadwrn.

Mae Liam Óg Ó hAnnaidh, wedi ei gyhuddo o chwifio baner oedd yn cefnogi’r sefydliad terfysgol gwaharddedig Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd. Mae'n gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Dywedodd aelod o Kneecap "F*** Keir Starmer" yn ystod eu perfformiad ar ôl i’r Prif Weinidog alw ar y band i beidio â chwarae yn yr ŵyl.

Yn dilyn y sylwadau dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod yn cynnal asesiadau o dystiolaeth fideo sydd wedi’i gasglu o’r perfformiadau er mwyn penderfynu a oes angen cynnal ymchwiliad troseddol. 

Mewn ymateb i’r perfformiadau, dywedodd Llysgenhadaeth Israel ar X eu bod yn "pryderu’n fawr" am yr iaith "ymfflamychol" a gafodd ei ddefnyddio ar y llwyfan yn Glastonbury. 

Maen nhw’n dweud bod iaith o’r fath yn annog "casineb" tuag at bobl Iddewig a’u bod yn galw ar yr ŵyl ac arweinwyr y DU i "wrthwynebu pob math o gasineb".

Dywedodd yr Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-semitiaeth y byddai'n cwyno'n ffurfiol i'r BBC am ei "benderfyniad gwarthus" i ddarlledu Bob Vylan.

"Rhaid i'n darlledwr cenedlaethol ymddiheuro am ledaenu'r feirniadaeth eithafol hon, a rhaid cael gwared ar y rhai sy'n gyfrifol o'u swyddi," meddai llefarydd.

'Syniadau creulon'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, nad oedd dathlu casineb tuag at Iddewon yn beth “edgy" i'w wneud.  

Gan gyfeirio at ymosodiad Hamas ar 7 Tachwedd 2023, ychwanegodd: “Llai na dwy flynedd yn ôl cafodd cannoedd o bobl eu treisio a’u llofruddio mewn gŵyl gerddorol. 

“Does gan y bobl yma dim syniad ynglŷn â beth yw terfysgaeth go iawn. 

“Dydyn nhw ddim yn deall y syniadau creulon maen nhw’n eu hyrwyddo – a does dim ots ganddyn nhw am hynny.”

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Roedd rhai o’r sylwadau a gafodd ei wneud yn ystod perfformiad Bob Vylan yn sarhaus iawn.

“Yn ystod y ffrwd byw ar iPlayer, a adlewyrchodd yr hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan, cafodd rhybudd ei ddangos ar y sgrin yn gysylltiedig â’r iaith gref a gwahaniaethol a gafodd ei ddefnyddio. 

“Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i wneud y perfformiad ar gael ar blatfformau ar alw.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod yr Ysgrifennydd Diwylliant Lisa Nandy wedi siarad â chyfarwyddwr cyffredinol y BBC am berfformiad Bob Vylan.

Lluniau: Ben Birchall a Yui Mok/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.