Newyddion S4C

Bechgyn Llanrug yn dod i'r brig mewn pencampwriaeth bêl-droed i glybiau drwy Brydain

Llanrug dan 10

Mae tîm pêl-droed bechgyn dan 10 Llanrug yng Ngwynedd wedi dod i'r brig mewn pencampwriaeth ar gyfer timau o bob cwr o Brydain. 

Fe ddaeth y tîm i’r brig ym mhencampwriaeth One Tournament, allan o dimau o holl wledydd y DU.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Warwick, yng ngorllewin canolbarth Lloegr, ddydd Sadwrn. 

Mae rheolwr y tîm, Sam Williams o Lanrug, yn dweud mai dyma’r tro cyntaf i dîm o Gymru ennill y gystadleuaeth.  

Mae timau o bob gwlad yn y DU yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn cyrraedd y rowndiau cynderfynol a’r rownd derfynol, esboniodd Sam. 

“Mae ‘na wyth regional heat i ddechrau. Pwy bynnag sy’n curo ac yn ail yn yr heat yna sy’n qualifio i fynd i Warwick i chwarae yn y nationals. 

“Natho ni guro Sheffield regional heat a wedyn odd na dîm arall, Telford, natho nhw qualifio yn ail. A wedyn yn bob un heat arall odd ganddo chi dau dîm yn qualifio o hwnna i fynd i Warwick. 

“A weekend yma natho ni neud y finals ac mae’r hogiau di cael cyntaf yn erbyn FPF Academy o Lundain.”

Profiad 'emosiynol'

Mae’r tîm pêl-droed wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd am bedair blynedd bellach ers cychwyn yn nhîm dan 6 oed. 

Maen nhw’n ymarfer gyda’i gilydd ddwywaith yr wythnos ac yn cystadlu bob dydd Sadwrn, meddai Sam. 

“Da ni di enterio lot o twrnamaints – da ni’n bob man, wedi mynd rownd Chester, Manceinion, Lerpwl a da ni’n neud yn dda. 

“Ond dyw’r hogiau ddim yn cael yr attention maen nhw’n haeddu felly tro ma da ni wedi mynd yn bellach i roi sylw i’r hogiau am faint mor dda maen nhw ‘di neud. 

“I dîm bach fel Llanrug i fynd i’r llefydd ma, mae o’n uffarn o beth de.” 

Dywedodd Sam ei fod ef a phawb sydd yn ynghlwm â’r tîm yn “falch” ohonynt. 

“Natho ni guro ddoe a nath yr emotions i gyd dod allan. 

“Odd yr hogiau yn crio ac yn hapus a pawb o gwmpas – timau o Lundain yn dod atom ni yn clapio ac yn supportio ag odd o’n uffern o deimlad i’r mama’ a tadau.

'Cario 'mlaen' 

Mae’n awyddus i helpu’r chwaraewyr i barhau i ddatblygu yn y gobaith y byddan nhw’n cael y cyfle i ddisgleirio yn y byd pêl-droed yn hwyrach ymlaen yn eu bywydau. 

“Y dyfodol ydy cario 'mlaen i neud be da ni’n neud. 

“Chwarae teg mae 'na lot o scouts o gwmpas, mae Everton, Lerpwl, Manceinion, maen nhw’n gofyn am players. 

“Dyna be ydy o, i weithio’r hogiau ar grassroots football ar y funud a pwsho nhw mlaen i gael go gyda’r clybiau mawr ma.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.