
Diagnosis o gyflwr sgoliosis yn brofiad 'dryslyd' i ferch ifanc o Gaerdydd
Diagnosis o gyflwr sgoliosis yn brofiad 'dryslyd' i ferch ifanc o Gaerdydd
Mae merch 13 oed sy’n byw â chyflwr sgoliosis yn dweud ei bod hi wedi wynebu cyfnod “dryslyd” pan oedd hi’n ceisio cael diagnosis cynnar.
Fe gafodd Ava o Gaerdydd ddiagnosis ar ôl i’w theulu sylweddoli ym mis Tachwedd y llynedd bod ganddi symptomau o’r cyflwr sydd yn achosi’r asgwrn cefn i blygu.
Mae'r math yma o blyg yn gallu arwain at achosi anghydbwysedd yn y corff.
Roedd ei theulu yn benderfynol o gael triniaeth i’w merch cyn gynted â phosib, meddai ei thad, Darren Uren.
Yn ôl elusen Support with Scoliosis (SWS) Cymru, mae cael diagnosis cynnar o sgoliosis yn “hanfodol” er mwyn gweithredu yn fuan ac fe allai hynny helpu osgoi gorfod cael llawdriniaeth.
Pan gafodd rhieni Ava wybod y byddai'n rhaid disgwyl chwe mis am apwyntiad gydag ymgynghorydd i ddechrau’r broses o gael diagnosis, dywedodd Mr Uren ei fod wedi ei “synnu.”
Fe benderfynodd y teulu dalu am apwyntiad preifat er mwyn cyflymu’r broses o gael diagnosis iddi ar frys.
Derbyniodd Ava weddill ei thriniaeth ar y gwasanaeth iechyd – ond roedd yr holl broses yn un “ddryslyd” iddi, meddai.

'Dryslyd'
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Roedd e’n rili confusing oherwydd doedd neb yn gwybod beth i neud. Odd e’n dechrau gyda pobl yn dweud, ‘Ti angen brace,’ a wedyn odd e’n physiotherapy.
“Ar ôl mynd nôl a ‘mlaen os fi angen y brace oddan nhw wedi dweud, ‘Ti definitely angen y brace ond os mae ddim yn helpu yna surgery yw’r opsiwn.’”
Dywedodd ei thad, Darren, ei fod yn “anodd cael dealltwriaeth am beth i ‘neud gyntaf” yn ystod dyddiau cynnar ei diagnosis.
“Odd yr ongl yn newid yn gyflym iawn a jyst i cael y consultant cyntaf, o’n i’n shocked i glywed bod e mynd i bod chwe mis.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi £120 miliwn er mwyn helpu byrddau iechyd i gwtogi rhestrau aros eleni.
Ychwanegodd llefarydd ar eu rhan eu bod gyda'r nod o wella’r broses o gael diagnosis cynnar a chywir a “darparu gofal priodol i unigolion mewn modd amserol, gan gynnwys y rhai sydd â sgoliosis.”

'Anodd'
Mae Ava wedi bod yn gwisgo ei brace ers bron i chwe mis bellach.
A hithau’n 12 oed ar y pryd a newydd ddechrau ym Mlwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd, roedd ei bywyd bob dydd wedi profi’n heriol ar adegau.
“O’n i’n teimlo’n wahanol iawn,” meddai wrth siarad am ei chyflwr.
“Roedd pobl yn gweud stwff oherwydd pan odd fi’n cael newid yn ymarfer corff roedd pobl yn gweud stwff fel:
‘Ugh, pam ydy hi’n edrych fel hwnna? Beth yw’r peth ‘na arni hi? Pam mae hi’n gwisgo hwnna?’
“Mae’n anodd.”
Y gobaith yw y byddai ei brace yn cywiro ongl ei hasgwrn cefn gan olygu na fydd yn rhaid iddi gael llawdriniaeth.
Ond mae ei chyflwr wedi datblygu yn “gyflym iawn” ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae ongl ei hasgwrn chefn wedi codi o 27 gradd i 41 gradd.

Diagnosis cynnar
A hithau’n fis codi ymwybyddiaeth am sgoliosis, mae teulu Ava yn awyddus i wella dealltwriaeth pobl am y cyflwr.
Mae dros 30,000 o bobl yn byw â sgoliosis yng Nghymru.
Dyw nifer fawr ohonynt ddim yn ymwybodol o unrhyw un arall sydd gyda’r cyflwr, ac fe allai hynny fod yn “unig dros ben,” medd Lynda Williams, Cadeirydd SWS Cymru.
Mae’n dweud ei bod yn “hollbwysig” bod plant yn cael diagnosis cynnar oherwydd mae’n golygu y bydd na fwy o opsiynau o ran triniaeth.
Fe allai diagnosis cynnar helpu drwy “wneud unrhyw lawdriniaeth sydd ei hangen yn llai cymhleth ac o bosib yn osgoi gorfod cael llawdriniaeth mawr le bydd angen gosod rodiau metel ar yr asgwrn cefn a fydd yn parhau yno am weddill eich oes.”
Roedd symptomau Ava yn achosi iddi blygu ei phen-glin wrth geisio sefyll yn syth ac roedd ganddi boen yn ei chefn.
Mae'n rhaid iddi ddisgwyl chwe mis rhwng cael sgan pelydr X, fydd yn dangos unrhyw newidiadau yn ongl ei hasgwrn cefn, oherwydd yr ymbelydredd.
Fe fydd hi’n cael diweddariad ynglŷn â’i chyflwr fis nesaf.