Newyddion S4C

Dyn 40 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur

Ffordd Ringland

Mae dyn 40 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad beic modur yng Nghasnewydd nos Sadwrn. 

Cafodd Heddlu Gwent wybod am wrthdrawiad rhwng dau feic modur – Yamaha du a Kawasaki coch – ar Ffordd Ringland am tua 18.40. 

Bu farw’r dyn oedd yn gyrru’r Yamaha yn y fan a’r lle, meddai'r heddlu. 

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol. 

Cafodd gyrrwr y Kawasaki ei gludo i’r ysbyty wedi’r gwrthdrawiad. 

Dyw ei anafiadau ddim yn peryglu ei fywyd. Dydyn nhw ddim chwaith yn anafiadau all newid ei fywyd, meddai’r llu. 

Mae’r ffordd rhwng Ringland ac ardal Coldra yn parhau ar gau. 

Mae Heddlu Gwent yn annog unrhyw all fod gyda gwybodaeth allai fod o gymorth i’w hymchwiliad i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2500204941.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.