Newyddion S4C

'Cyfeillgarwch' yn denu pobl at blatfform cymdeithasol Tŵt Cymru

09/04/2023

'Cyfeillgarwch' yn denu pobl at blatfform cymdeithasol Tŵt Cymru

Eleni mae platfform cyfryngau cymdeithasol Tŵt Cymru yn dathlu ei benblwydd yn bump oed. 

Yn wahanol i gyfryngau cymdeithasol eraill, cafodd Tŵt Cymru ei sefydlu yn 2018 ar blatfform Mastadon gan olygu nad yw’n gwneud elw economaidd fel rhai o’i gystadleuwyr. 

Yn ôl Dr David Clubb sydd yn aelod o gorff llywodraethu Tŵt Cymru, mae hyn yn ei wneud yn “fyd gwahanol” gan alluogi i bobl o bob cwr o Gymru i gysylltu gyda'i gilydd. 

Ers ei ddyddiau cynnar mae’r platfform wedi gweld cynnydd yn y nifer sydd yn defnyddio’r rhwydwaith a bellach mae gan Tŵt oddeutu 14,000 o ddefnyddwyr.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r platfform wedi gweld cynnydd ym maint ei gynulleidfa yn rhannol o ganlyniad i wrthwynebiad rhai o berchnogaeth Twitter gan Elon Musk, yn ôl Dr Clubb.

Ychwanegodd mai “cyfeillgarwch” oedd yr elfen sydd yn parhau i ddenu pobl i Tŵt a hynny o ganlyniad i’w reolau sydd yn hybu cymuned ac yn atal atgasedd ar-lein. 

‘Adref ar-lein’ 

“Mae wedi bod cyfnod o adjusting i gael lot o bobl yn dod o rywle arall a thrio dysgu a cael nhw i ddeall y rheolau gwahanol," meddai.

“Ti ddim yn gallu bod yn gas er enghraifft sydd yn rili neis.” 

Y gobaith, yn ôl Dr Clubb, yw denu mwy o gyrff cyhoeddus i’r safle er mwyn plethu'r gymdeithas Gymraeg yn agosach at ei gilydd.

“Ni’n edrych ymlaen at gynnig adre hyfryd i bobl sydd eisiau cael y fath o wasanaeth ti’n arfer cael o Trydar neu llefydd fel hyn. 

“Ond mae’n rhywle sydd yn hollol gyfeillgar, llawn parch am bobl eraill ac wrth gwrs yn cael y gwraidd yng Nghymru,” meddai. 

Gyda chymysgedd o gysylltiadau “hyper-lleol a rhyngwladol” mae’r platfform hefyd yn ymgyrchu i hyrwyddo’r iaith Gymraeg trwy’r defnydd o hashnodau, fel '#dysgucymraeg.' 

Dros yr haf bydd Tŵt Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda’i dilynwyr ledled y wlad i ddathlu ei ben-blwydd ar 16 Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.