Yr Elyrch yn wynebu Barnsley eto yn y gemau ail gyfle

Yr Elyrch yn wynebu Barnsley eto yn y gemau ail gyfle
Fe fydd Abertawe yn wynebu Barnsley yn ail gymal gêm gynderfynol y gemau ail gyfle.
Mae gan Yr Elyrch gôl o fantais dros yr ymwelwyr wedi’r cymal cyntaf, ond fel y gwelsant y llynedd, fe all pethau newid.
Un hwb amserol yw’r ffaith y bydd 3,000 o gefnogwyr cartref yno i’w ysbrydoli.
Mae Taylor Smoldon, yn un o’r cefnogwyr fydd yn croesawu’r tîm yn ôl i Stadiwm Liberty.
“Fi methu aros gweld gêm fyw eto,” dywedodd Taylor.
“Mae wedi bod bron yn deimlad o ‘lifetime’ ers i mi fod nôl yn y stadiwm. Felly, methu aros nawr.
“Methu aros bod nôl a chanu am y ‘Swans’ – methu aros.”