Pedwar car a goriadau cerbydau wedi eu dwyn o garej yn Sir Benfro
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad wedi i bedwar o geir a sawl goriad cerbyd arall gael eu dwyn o safle gwerthwyr Sinclair yn Neyland, Sir Benfro ddydd Sul.
Cafodd y cerbydau eu dwyn o ganolfan y cwmni yn Haven Bridge Road rhwng 1.30 a 2.30 a chafodd VW Tiguan R, Audi Q3, Audi A1 a Mercedes GLC Coupe eu dwyn.
Mae’r heddlu wedi dod o hyd i'r Tiguan, A1 a Q3 yn ardal Doc Penfro, ond mae’r heddlu yn parhau i chwilio am y Mercedes gwyn, gyda'r plât cofrestru MJ16 ODP
Cafodd allweddi ar gyfer saith car arall eu dwyn hefyd.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac maent yn apelio ar unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i ffonio, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod: DPP/0866/02/04/2023/02/C.