Covid-19: Yr Almaen yn atal teithwyr o’r Deyrnas Unedig
Fe fydd pobl o’r Deyrnas Unedig yn cael eu hatal rhag teithio i’r Almaen o ddydd Sul ymlaen y sgil pryderon am amrywiolion Covid-19.
O hanner nos ymlaen ar 23 Mai, dim ond dinasyddion Almaeneg sy’n teithio o Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon fydd yn cael mynediad i’r wlad.
Daw’r newid wrth i gorff Iechyd Cyhoeddus yr Almaen ddynodi'r Deyrnas Unedig fel ardal ag y gallai fod o bryder o ran amrywiolion Covid-19.
Mae’r newid yn groes i Sbaen, a fydd yn caniatáu teithwyr o’r Deyrnas Unedig o ddydd Llun ymlaen.
Mae’r Almaen a Sbaen yn perthyn i restr oren y llywodraeth ar gyfer teithio rhyngwladol, sy’n golygu y bydd yn rhaid i deithwyr hunan-ynysu gartref am 10 diwrnod a chymryd profion cyn teithio ac ar ôl dychwelyd.