Protestwyr hawliau anifeiliaid yn rhwystro stordai McDonald's
Mae protestwyr hawliau anifeiliaid wedi bod yn achosi oedi ym mhedwar o stordai McDonald's mewn ymgais i fynnu fod y cwmni yn symud i fod yn gwbl lysieuol erbyn 2025.
Dywed Animal Rebellion fod o ddeutu 50 o ymgyrchwyr yn safleoedd Hemel Hempstead, Basingstoke, Coventry a Heywood a Manceinion – gan atal lorïau rhag gadael a chyrraedd y stordai.
Mae’r Mirror yn adrodd y gallai hyn achosi prinder mewn cyflenwad i 1,300 o fwytai McDonald's.
Mae McDonald's wedi ymddiheuro am unrhyw siomedigaeth o ganlyniad i'r digwyddiad.
Mae’r ymgyrchwyr wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu aros ar y safleoedd am o leiaf 24 awr, gan ddefnyddio strwythurau bambŵ a cherbydau i rwystro mynediad.
Dywedodd llefarydd ar ran McDonald's: “Ry'ni'n wynebu aflonyddwch yn ein canolfannau dosbarthu ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ar sut effaith gaiff hyn ar ddanfoniadau i'n bwytai ac ar eitemau'r fwydlen. Ry'ni'n ymddiheuro i'n cwsmeriaid am unrhyw siom a achosir o ganlyniad."
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Animal Rebellion/ Twitter