
Diflaniad Frankie Morris: Apêl o’r newydd i adnabod cerbydau
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am ragor o wybodaeth wrth iddyn nhw barhau a'u hymchwiliad i ddiflaniad dyn ifanc o Ynys Môn yn ardal Pentir, Gwynedd.
Mae Frantisek "Frankie" Morris, 18 o Landegfan, Sir Fôn wedi bod ar goll ers 2 Mai.
Mae'r heddlu yn dweud eu bod nhw nawr yn gofyn i yrwyr cerbydau a fu'n teithio ym mhentref Pentir ddydd Sul, 2 Mai i gysylltu â'r llu cyn gynted â phosib.
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu'r Gogledd, Owain Llewelyn: "Rydym ar hyn o bryd yn archwilio pob un llwybr posib i ddarganfod symudiadau Frankie ar ddydd Sul, 2 Mai.
"Gofynnwn i unrhyw berson a oedd yn gyrru'r cerbydau yma ym mhentref Pentir, eich bod yn cysylltu â ni ar unwaith.
"Hoffwn ddiolch i deulu Frankie am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod pryderus a dirdynnol hwn. Mae yna swyddogion arbenigol yn cydweithio â nhw."
Am ragor o wybodaeth am yr apêl, cliciwch yma.


