Tua 1.7 miliwn o weithwyr i dderbyn codiad 'sylweddol' mewn cyflog byw
Bydd tua 1.7 miliwn o weithwyr ar draws y DU yn derbyn codiad "sylweddol" yn eu cyflog byw pan fydd yr isafswm cyflog cenedlaethol yn codi ddydd Sadwrn.
Fe fydd y cyflog byw yn codi i £10.42 yr awr i weithwyr sydd yn 23 oed neu'n hŷn, sydd yn gyfatebol i godiad o 10% yn ôl melin drafod y Resolution Foundation.
Ychwanegodd Resolution Foundation mai dyma'r codiad blynyddol mwyaf ers cyflwyno'r isafswm cyflog 24 o flynyddoedd yn ôl.
Dywedodd Nye Cominetti, uwch economegydd Resolution Foundation: "Bydd miliynau o bobl Prydain sydd yn ennill yr arian lleiaf yn paratoi am godiad tâl sylweddol wrth i'r isafswm cyflog cenedlaethol godi bron i £1 yr awr.
"Mae'r codiad diweddar nid yn unig yn sicrhau codiad cyflog angenrheidiol ddydd Sadwrn, ond hefyd yn trawsnewid enillion i bobl ar draws Prydain - gwrthdroi'r cynnydd mewn anghydraddoldeb tâl a haneru lefelau tâl isel."
Chwyddiant
Er bod y cynnydd ddydd Sadwrn y mwyaf ers blynyddoedd, mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) yn dweud nad yw'n gyfatebol i'r cynnydd mewn chwyddiant a phrisiau bwyd.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Paul Nowak: "Mae pawb sydd yn gweithio'n galed yn haeddu ennill cyflog da, ond mae'r cynnydd yn is na chwyddiant a dydy o ddim yn codi'r pwysau oddi ar deuluoedd.
"Bydd swm sylweddol yn mynd tuag at gostau ynni cynyddol, a bydd nifer o weithwyr sydd yn derbyn tâl isel ddim yn gweld newid cadarnhaol yn eu gwariant."