Tagfeydd ar A487 rhwng Y Felinheli a Chaernarfon
Mae yna oedi sylweddol ar yr A487 rhwng Y Felinheli a Chaernarfon prynhawn dydd Gwener.
Mae tagfeydd i'r ddau gyfeiriad oherwydd gwaith brys yn yr ardal.
Yn ôl Traffig Cymru, disgwylir i amser teithio tua'r de gymryd o ddeutu 27 munud, gyda'r amser teithio tua'r gogledd gymryd o ddeutu 8 munud. Maen nhw hefyd wedi argymell i deithwyr ddod o hyd i lwybr arall lle bo hynny'n bosib.
Mae SP Energy Networks wedi ymddiheuro am unrhyw drafferth mae'r goleuadau traffig wedi'u hachosi.
Ar Twitter, dywedodd SP Energy Networks: "Mae ein peirianwyr yn cwblhau gwaith brys ac yn gweithio'n galed i gael gwared â hyn cyn gynted â phosib.
"Byddwch yn amyneddgar wrth i ni ddelio â'r sefyllfa."